Cwricwlwm Llythrennedd Digidol
Wedi ei ddiweddaru: Ebrill 9, 2008
Mae'r Cwricwlwm Llythrennedd Digidol yn cynnwys pum cwrs:
Cynefino â'r Cyfrifiadur
Y Rhyngrwyd a'r We Fyd-Eang
Rhaglenni Cynhyrchedd
Diogelwch a Phreifatrwydd Cyfrifiadurol
Ffyrdd o Fyw Digidol
Mae pob cwrs yn cynnwys modiwl e-ddysgu ac asesiad. Fe allwch chi hefyd sefyll y Prawf Tystysgrif, sy'n cynnwys pynciau o bob un o'r pum cwrs. Os pasiwch chi'r Prawf Tystysgrif, fe allwch argraffu Tystysgrif Llythrennedd Digidol bersonol.
Cael help wrth ddewis cwrs
Cael rhagor o wybodaeth am asesiadau a'r Prawf Tystysgrif
Sefyll y Prawf Tystysgrif Llythrennedd Digidol
|
Tua Faint o Amser: 2-3 awr Rhagofynion: Dim Disgrifiad: Mae defnyddio cyfrifiadur yn rhan bwysig o fywyd bob dydd yn yr unfed ganrif ar hugain. O gerddoriaeth a lluniau i fancio a chyfathrebu, mae cyfrifiaduron wedi newid y ffordd rydyn ni'n byw ac yn gweithio. Yn y cwrs yma, fe gewch chi gyflwyniad i hanfodion cyfrifiadura. Mae'n esbonio cydrannau'r cyfrifiadur, yn edrych ar elfennau sylfaenol y system gweithredu, ac yn dangos i chi sut mae defnyddio llygoden a bysellfwrdd.
Gweld Pynciau'r Cwrs |
* Mae'n well cael cysylltiad 56K neu gyflymach er mwyn defnyddio'r dewisiadau heb-gysylltu.
|
Tua Faint o Amser: 2-3 awr Rhagofynion: Cwrs Cynefino â'r Cyfrifiadur neu brofiad tebyg Disgrifiad: Gall y Rhyngrwyd eich cysylltu â phobl, â gwybodaeth, ac ag adnoddau o gwmpas y byd. Mae'r cwrs hwn yn dangos i chi sut mae cysylltu â'r Rhyngrwyd, pori drwy dudalennau'r We, llywio i Wefannau, defnyddio chwilotwyr, a chyfnewid e-bost gyda phobl eraill.
Gweld Pynciau'r Cwrs |
* Mae'n well cael cysylltiad 56K neu gyflymach er mwyn defnyddio'r dewisiadau heb-gysylltu.
|
Tua Faint o Amser: 2-3 awr Rhagofynion: Cwrs Cynefino â'r Cyfrifiadur neu brofiad tebyg Disgrifiad: Mae cannoedd o raglenni meddalwedd ar gael erbyn heddiw. Mae'r cwrs hwn yn edrych ar y rhaglenni meddalwedd cynhyrchedd mwyaf cyffredin sy'n cael eu defnyddio ym myd busnes, addysg a gartref. Mae'r cwrs hwn yn dysgu i chi sut mae dewis y meddalwedd iawn i'ch prosiect. Byddwch chi'n dysgu hanfodion prosesu geiriau, taenlenni, meddalwedd cyflwyno a chronfeydd data.
Gweld Pynciau'r Cwrs |
* Mae'n well cael cysylltiad 56K neu gyflymach er mwyn defnyddio'r dewisiadau heb-gysylltu.
|
Tua Faint o Amser: 2-3 awr Rhagofynion: Cwrs Cynefino â'r Cyfrifiadur neu brofiad tebyg Disgrifiad: Mae'n hawdd defnyddio cyfrifiadur yn ddiogel ac mewn ffordd gyfrifol, dim ond i chi wybod sut. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddod yn fwy hyderus ar y cyfrifiadur drwy esbonio'r risgiau a'r bygythiadau i ddiogelwch a phreifatrwydd eich cyfrifiadur er mwyn i chi eu deall nhw a'u hatal.
Gweld Pynciau'r Cwrs |
* Mae'n well cael cysylltiad 56K neu gyflymach er mwyn defnyddio'r dewisiadau heb-gysylltu.
|
Tua Faint o Amser: 2-3 awr Rhagofynion: Cwrs Cynefino â'r Cyfrifiadur neu brofiad tebyg Disgrifiad: O ffonau symudol i chwaraewyr MP3 i gamerâu digidol, mae cyfrifiaduron yn newid ein bywydau bob dydd. Mae'r cwrs hwn yn eich cyflwyno i dechnolegau digidol newydd, gan gynnwys sain ddigidol, fideo digidol a ffotograffiaeth ddigidol. Mae'n edrych ar sut mae'r rhain a thechnolegau cyfrifiadura eraill yn creu cyfleoedd newydd ym maes swyddi ac yn llunio'r byd rydyn ni'n byw ynddo.
Gweld Pynciau'r Cwrs |
* Mae'n well cael cysylltiad 56K neu gyflymach er mwyn defnyddio'r dewisiadau heb-gysylltu.
|
Tua Faint o Amser: 30-60 munud Rhagofynion: Pob un o'r pum Cwrs Llythrennedd Digidol neu brofiad tebyg Disgrifiad: Mae'r Prawf Tystysgrif Llythrennedd Digidol yn cynnwys 30 o gwestiynau am y pwyntiau allweddol sy'n codi ym mhob un o'r pum cwrs Llythrennedd Digidol. Ar ôl i chi orffen y prawf, fe gewch chi Gynllun Dysgu gyda dolenni at y gwersi hynny yn y cwrs y mae angen i chi gael golwg arall arnyn nhw er mwyn meistroli holl bynciau'r cwrs. Os pasiwch chi'r Prawf Tystysgrif, fe gewch chi'ch gwahodd i greu ac argraffu'ch Tystysgrif Llythrennedd Digidol.
Lansio Prawf Tystysgrif Llythrennedd Digidol (rhaid cael cysylltiad band eang)
|
Pynciau’r Cyrsiau
|
Gwers 1: Cynefino â'r Cyfrifiadur |
Amcanion
1.1. Disgrifio pa mor bwysig yw cyfrifiaduron yn ein byd ni heddiw.
1.2. Nodi beth yw prif rannau'r cyfrifiadur.
1.3. Nodi'r camau i'w dilyn i gychwyn y cyfrifiadur.
1.4. Nodi'r gwahanol grwpiau o fysellau ar fysellfwrdd.
1.5. Gwneud gwahanol dasgau drwy ddefnyddio llygoden.
|
Gwers 2: Terminoleg Gyfrifiadurol Gyffredin |
Amcanion
2.1. Nodi cydrannau caledwedd sylfaenol y cyfrifiadur.
2.2. Diffinio'r system gweithredu a'i rôl.
2.3. Diffinio'r term rhaglen.
2.4. Egluro beth yw data.
2.5. Diffinio'r term rhwydwaith ac egluro manteision rhwydweithio.
2.6. Diffinio'r term Rhyngrwyd.
|
Gwers 3: Perfformiad a Nodweddion y Cyfrifiadur |
Amcanion
3.1. Nodi a chymharu nodweddion gwahanol fathau o gyfrifiaduron.
3.2. Egluro rôl y cof.
3.3. Egluro elfennau perfformio sylfaenol y cyfrifiadur a'u dylanwad ar gynhyrchedd.
3.4. Disgrifio'r gwahanol fathau o raglenni cynhyrchedd a'r ffordd y'u defnyddir.
3.5. Disgrifio'r gwahanol fathau o raglenni cyfathrebu a'r ffordd y'u defnyddir.
3.6. Disgrifio gwahanol ffyrdd o ddefnyddio rhaglenni addysgol ac adloniant.
|
Gwers 4: Systemau Gweithredu'r Cyfrifiadur |
Amcanion
4.1. Egluro beth yw swyddogaethau cyffredin system gweithredu.
4.2. Nodi beth yw gwahanol gydrannau rhyngwyneb Windows XP.
4.3. Gweithio gyda rhyngwyneb Windows XP o fewn rhaglenni.
4.4. Rheoli ffeiliau a ffolderi yn Microsoft Windows Explorer.
4.5. Gwneud tasgau sylfaenol gyda ffeiliau.
|
Gwers 5: Gyrfaoedd |
Amcanion
5.1. Disgrifio sut y mae cyfrifiaduron wedi dod yn rhan ganolog o'n bywydau beunyddiol.
5.2. Nodi pa wahanol yrfaoedd sydd ar gael i rywun sy'n deall cyfrifiaduron.
|
|
Gwers 1: Y Rhyngrwyd |
Amcanion
1.1. Diffinio'r Rhyngrwyd ac egluro'r ffyrdd o'i ddefnyddio.
1.2. Nodi'r gwahanol gydrannau y mae eu hangen i gysylltu â'r Rhyngrwyd.
1.3. Nodi nodweddion y gwahanol fathau o gysylltiadau Rhyngrwyd.
1.4. Egluro ystyr y term lled band wrth sôn am y gwahanol fathau o gysylltiadau Rhyngrwyd.
|
Gwers 2: Y We Fyd-Eang |
Amcanion
2.1. Diffinio'r We Fyd Eang ac egluro'r ffyrdd o'i defnyddio
2.2. Egluro sut y mae cyfeiriadau Gwe yn gweithio.
2.3. Egluro sut i ddefnyddio porwr i lywio ar y We.
2.4. Egluro sut i bwyso a mesur cynnwys Gwefan.
2.5. Egluro ystyr E-Fasnach.
2.6. Diffinio beth yw ategion pori a sut maen nhw'n cael eu defnyddio.
|
Gwers 3: Cyfathrebu ar y Rhyngrwyd |
Amcanion
3.1. Egluro sut mae e-bost yn gweithio.
3.2. Ysgrifennu ac anfon negeseuon e-bost
3.3. Rheoli negeseuon e-bost
3.4. Nodi beth yw nodweddion cymunedau ar-lein.
3.5. Egluro sut y mae negeseua gwib yn gweithio.
3.6. Egluro sut y defnyddir meddalwedd awdura ar y We i greu a chyhoeddi tudalennau Gwe.
|
|
Gwers 1: Nodweddion a Gorchmynion Cyffredin |
Amcanion
1.1. Nodi prif elfennau'r rhyngwyneb defnyddiwr.
1.2. Egluro beth yw pwrpas y gorchmynion ar y bar dewislenni.
1.3. Gweithio gyda'r botymau ar y bar offer.
1.4. Gweithio gyda'r pwyntydd mewn rhaglen.
1.5. Gweithio gyda thestun a nodau mewn rhaglen.
1.6. Egluro sut i ddefnyddio'r prif fysellau hwylus a chyfuniadau o fysellau.
|
Gwers 2: Prosesu Geiriau |
Amcanion
2.1. Gwneud tasgau sylfaenol gyda phrosesydd geiriau.
2.2. Golygu a fformatio testun.
2.3. Gweithio gyda thablau a lluniau.
2.4. Gweithio gydag offer iaith.
2.5. Nodi'r gwahanol fanteision o ddefnyddio DTP.
|
Gwers 3: Taenlenni |
Amcanion
3.1. Adnabod gwahanol gydrannau taenlen.
3.2. Bwydo data i daenlen.
3.3. Gwneud tasgau mathemategol sylfaenol mewn taenlen.
3.4. Mewnosod siartiau mewn taenlen.
3.5. Egluro pwrpas y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael ar gyfer argraffu taenlen.
|
Gwers 4: Rhaglenni Cyflwyno |
Amcanion
4.1. Adnabod y nodweddion sylfaenol a gynigir gan raglenni cyflwyno.
4.2. Creu cyflwyniad newydd.
4.3. Ychwanegu graffigion ac elfennau amlgyfrwng at gyflwyniad.
4.4. Adnabod y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer argraffu cyflwyniadau ar wahanol fformatau.
|
Gwers 5: Cronfeydd Data |
Amcanion
5.1. Egluro cysyniadau sylfaenol cronfa ddata.
5.2. Creu cronfa ddata.
5.3. Gweithio gyda chofnodion mewn cronfa ddata.
5.4. Egluro beth yw ymholiadau cronfa ddata a sut maen nhw'n gweithio.
5.5 Egluro beth yw adroddiadau a sut i'w defnyddio.
|
|
Gwers 1: Trosolwg ar Ddiogelwch a Phreifatrwydd Cyfrifiadurol |
Amcanion
1.1. Esbonio beth yw ystyr y termau diogelwch a phreifatrwydd ym myd y cyfrifiadur.
1.2. Nodi'r gwahanol fygythiadau sydd ym myd y cyfrifiadur ac esbonio'r gwahanol atebion sydd ar gael.
|
Gwers 2: Diogelu eich Cyfrifiadur a'ch Data |
Amcanion
2.1. Disgrifio gwahanol ddulliau o ddiogelu'r system gweithredu, y meddalwedd a'r data ar eich cyfrifiadur.
2.2. Disgrifio gwahanol ffyrdd o ddiogelu trafodion rhwydwaith ac ar-lein.
2.3. Disgrifio'r camau cyffredin y gallwch eu cymryd i ddiogelu trafodion e-bost a negeseua gwib.
|
Gwers 3: Diogelu eich Hun a'ch Teulu rhag Bygythiadau i Ddiogelwch |
Amcanion
3.1. Nodi'r camau cyffredin a ddilynir i ddiogelu preifatrwydd.
3.2. Egluro sut y mae ysglyfaethwyr ar-lein yn gweithredu.
3.3. Disgrifio'r canllawiau ar gyfer gwarchod eich plant rhag ysglyfaethwyr ar-lein.
|
Gwers 4: Cadw eich Cyfrifiadur yn Ddiogel ac Wedi'i Ddiweddaru |
Amcanion
4.1. Egluro pwrpas y gwahanol osodiadau diogelwch ar eich cyfrifiadur.
4.2. Disgrifio'r dewisiadau sydd ar gael i ddiweddaru eich cyfrifiadur yn gyson.
|
Gwers 5: Egwyddorion |
Amcanion
5.1. Esbonio beth yw ystyr y term eiddo deallusol ym myd y cyfrifiadur.
5.2 Nodi'r gwahanol droseddau hawlfraint a ffyrdd o'u hatal.
5.3. Nodi'r amrywiol ystyriaethau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â chyfnewid gwybodaeth.
|
|
Gwers 1: Y Profiad Digidol Modern |
Amcanion
1.1. Nodi beth yw manteision y datblygiadau cynyddol ym maes technoleg ddigidol.
1.2. Egluro sut y mae cyfuno technolegau'n ehangu ar y nodweddion y mae dyfeisiau digidol yn eu cynnig.
|
Gwers 2: Sain Ddigidol |
Amcanion
2.1. Nodi gwahanol nodweddion sain ddigidol.
2.2. Egluro'r cysyniadau sy'n sail i recordio, copïo a throsi sain ddigidol.
2.3. Nodi nodweddion uwch-dechnolegau llais.
|
Gwers 3: Fideo Digidol |
Amcanion
3.1. Nodi gwahanol nodweddion fideo digidol.
3.2. Disgrifio beth yw golygu fideo digidol a'r gwahanol fformatau allbwn ar gyfer fideo digidol.
3.3. Nodi nodweddion gwahanol dechnolegau fideo Gwe.
|
Gwers 4: Ffotograffiaeth Ddigidol |
Amcanion
4.1. Egluro beth yw manteision a nodweddion camera digidol a sut y mae'n gweithio.
4.2. Disgrifio sut mae rheoli a golygu lluniau digidol.
4.3. Dweud beth yw nodweddion y gwahanol fathau o beiriannau argraffu sydd ar gael i argraffu lluniau.
|
Gwers 5: Technoleg Ddigidol a Gyrfaoedd |
Amcanion
5.1. Egluro sut y mae technoleg ddigidol yn eich helpu i weithio o bell.
5.2. Nodi'r gwahanol yrfaoedd sydd ar gael yn y byd technoleg ddigidol
|