Croeso i Gwricwlwm Llythrennedd Digidol Microsoft. Nod Llythrennedd Digidol yw dysgu ac asesu cysyniadau a sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol er mwyn i bobl ddefnyddio technoleg cyfrifiaduron yn eu bywyd bob dydd gan ddatblygu cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd newydd iddyn nhw'u hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau.
Efallai eich bod yn defnyddio cyfrifiadur am y tro cyntaf neu efallai fod gennych chi ychydig o brofiad eisoes. Beth bynnag yw'ch sefyllfa, bydd y cwricwlwm hwn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o gyfrifiaduron. O ddefnyddio'r Rhyngrwyd, i anfon e-bost, i greu CV, bydd y Cwricwlwm Llythrennedd Digidol yn help i chi ddatblygu'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch chi er mwyn dechrau defnyddio'r cyfrifiadur yn hyderus.