Internet Explorer

    Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows Internet Explorer 7 ar gyfer SP2 Windows XP

    Newid Iaith:
    Llwythwch y fersiwn diweddaraf o borwr Gwe mwyaf poblogaidd y byd i lawr.
    • Fersiwn:

      7.0

      Enw Ffeil:

      ie7lip-x86-CYM.exe

      Dyddiad Cyhoeddi:

      02/04/08

      Maint Ffeil :

      13.1 MB

        Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith Internet Explorer 7 wedi'i ddylunio ar gyfer marchnadoedd rhanbarthol nad oes ganddynt fersiynau lleol o Internet Explorer 7 ar hyn o bryd. Mae'r pecynnau'n galluogi defnyddwyr y cyfrifiadur i ddangos nodweddion mwyaf cyffredin y porwr yn eu mamiaith. Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows Internet Explorer 7 yn "haen" wedi'i lleoleiddio ar gyfer marchnadoedd iaith sy'n datblygu, megis Catalaneg, Lithwaneg, a Thai. Yn seiliedig ar dechnoleg Rhyngwyneb Defnyddiwr Amlieithog, mae'r Pecyn Rhyngwyneb Iaith yn golygu bod oddeutu 80% o brofiad y defnyddiwr ar y bwrdd gwaith wedi'i leoleiddio drwy gyfieithu set lai o elfennau'r rhyngwyneb defnyddiwr. Caiff y Pecyn Rhyngwyneb Iaith ei osod ar gopi trwyddedig o Windows ac iaith sylfaen benodol. Mae'r iaith sylfaen ofynnol yn dibynnu ar yr iaith Pecyn Rhyngwyneb Iaith rydych eisiau ei defnyddio.

        Tarwch olwg ar safle Pecyn Rhyngwyneb Iaith Microsoft i gael gwybod rhagor am y rhaglen Pecynnau Rhyngwyneb Iaith. I lwytho Internet Explorer 7 i lawr yn un o'r 24 iaith sydd wedi'u lleoleiddio'n llawn, tarwch olwg ar safle Byd Eang Internet Explorer.

        Dim ond ar gyfer Service Pack 2 Microsoft Windows XP y mae hwn. I lwytho Pecynnau Rhyngwyneb Iaith Internet Explorer 7 ar gyfer fersiynau eraill a gefnogir o Microsoft Windows, edrychwch ar y pethau eraill cysylltiedig y gellir eu llwytho i lawr isod.
    • Systemau Gweithredu a Gefnogir

      Windows XP Service Pack 2

        • Rhaid gosod pecyn iaith Pecyn Rhyngwyneb Iaith y system gweithredu. Os nad yw pecyn iaith Pecyn Rhyngwyneb Iaith y system gweithredu gennych, gallwch osod y pecyn o'r safle Pecyn Rhyngwyneb Iaith Microsoft.
        • Os Slofeneg yw iaith eich system, does dim angen i chi osod Pecyn Rhyngwyneb Iaith System Gweithredu ar wahân a chewch fwrw ymlaen i osod Pecyn Rhyngwyneb Iaith Internet Explorer 7. Gall Microsoft Windows XP Home Edition ddelio â Phecynnau Rhyngwyneb Iaith Internet Explorer 7 Slofeneg a Slofaceg hefyd.
        • Os oes gennych chi Windows Starter Edition ac mae eich system yn ymddangos yn yr iaith gywir, rydych chi'n barod i osod Pecyn Rhyngwyneb Iaith Internet Explorer 7. Os bydd Windows Starter Edition yn ymddangos yn Saesneg, bydd angen i chi osod y pecyn iaith yn gyntaf o'r CD a roddwyd i chi gan eich gwneuthurwr offer gwreiddiol.
        1. Cliciwch y botwm Llwytho i Lawr ar y dudalen hon i ddechrau llwytho i lawr, neu ddewis iaith arall o'r gwymprestr a chlicio Mynd.
        2. Gwnewch un o'r canlynol:
          • I ddechrau gosod ar unwaith, cliciwch Agor neu Rhedeg y rhaglen hon yn ei lleoliad cyfredol.
          • I'w chopïo i'ch cyfrifiadur er mwyn ei gosod rywbryd eto, cliciwch Cadw neu Cadw'r rhaglen hon ar ddisg.
        • Bydd rhaglen gosod Pecyn Rhyngwyneb Iaith Internet Explorer 7 yn yr un iaith â'ch system gweithredu sylfaenol.

    Ffeiliau Poblogaidd i'w llwytho i lawr

    Loading your results, please wait...

    Diweddariadau am ddim i'r cyfrifiadur

    • Darnau diogelwch
    • Diweddariadau meddalwedd
    • Pecynnau gwasanaeth
    • Gyrwyr caledwedd