Defnyddiwch gyfieithiadau ScreenTip i ddangos testun elfennau dangos – megis botymau, dewislenni a blychau deialog – mewn iaith arall.
Note:There are multiple files available for this download.Once you click on the "Download" button, you will be prompted to select the files you need.
screentiplanguage_cy-gb_32bit.exe
screentiplanguage_cy-gb_64bit.exe
Newidiwch yr iaith ScreenTip i ddangos cyfieithiadau o elfennau dangos – megis botymau, dewislenni a blychau deialog – mewn iaith arall a helpu defnyddwyr i lywio drwy gymwysiadau Microsoft Office a gafodd eu gosod mewn iaith na ddeallant.
Dyma rai enghreifftiau o sefyllfaoedd defnyddio:
- Cymorth iaith dwyieithog ac amlieithog
- Gall Peirianwyr Help estyn cymorth ar gyfer ieithoedd na ddeallant
- Defnyddwyr sy'n defnyddio Office mewn iaith dramor dros dro neu am gyfnod dro dro (defnyddwyr Crwydrol)
- Defnydd iaith cyfrifiaduron personol a rennir
Systemau Gweithredu a Gefnogir
Windows 7; Windows 8 Release Preview
-
Cymwysiadau Microsoft Office wedi'u Cynnal:
Microsoft Office Word 2013, Microsoft Office Excel 2013, Microsoft Office Outlook 2013, Microsoft Office PowerPoint 2013, Microsoft Office OneNote 2013, Microsoft Office Visio 2013, Microsoft Office Publisher 2013
Gall fod angen gosod ffeiliau cefngaetha r gyfer ieithoedd Dwyrain Asia a Sgript Cymhleth. Gellir gwneud hyn trwy'r Panel Rheoli yn 'Opsiynau Rhanbarthol a Iaith'.
I osod y lawrlwythiad hwn:
- Cliciwch y botwm Llwytho i Lawr ar y tudalen hwn i gychwyn.
- Gwnewch un o'r canlynol:
- I ddechrau'r gosod yn syth, cliciwch Rhedeg.
- I gadw'r eitem llwytho i lawr ar eich cyfrifiadur i'w gosod yn nes ymlaen, cliciwch Cadw.
- I ganslo'r gosod, cliciwch Canslo.
I ddiffodd neu newid yr Iaith ScreenTip
- Cliciwch y botwm Ffeil Office, dethol Dewisiadau, dethol Iaith a threfnu'r Iaith ScreenTip fel 'Cyfateb i'r Iaith Ddangos'.
I dynnu'r lawrlwythiad hwn:
- O'r ddewislen Cychwyn, ewch i Panel Rheoli.
- Dwbl-gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
- Yn y rhestr o'r rhaglenni sydd eisoes wedi'u gosod, detholwch Iaith Microsoft Office ScreenTip , ac yna clicio Tynnu neuYchwanegu/Tynnu. Os bydd blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu'r rhaglen.
- Cliciwch Iawn neu OK i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.