Cliciwch Yma i Osod Silverlight*
WelshNewid| Pob Safle Microsoft
Microsoft
Canolfan Llwytho i Lawr 
Chwilio
Chwiliad Manwl

Pecyn Rhyngwyneb Iaith Microsoft Office 2007 Pecyn Gwasanaeth 2 (SP2)

Disgrifiad Cyflym
Mae Pecyn Gwasanaeth 2 yn cynnwys diweddariadau i Becynnau Rhyngwyneb Iaith Microsoft Office 2007.

Ar y Dudalen Hon

Manylion Cyflym:
Enw Ffeil:officelip2007sp2-kb953339-fullfile-cy-gb.exe
Fersiwn:1.0
Erthyglau Sail Gwybodaeth (KB):KB953339
Dyddiad Cyhoeddi:21/05/2009
Iaith:Cymraeg
Maint y Ffeil:14.0 MB
Amcangyfrifiad o'r Amser Llwytho: 34 mun 56K

Newid Iaith:
  

Gorolwg

Mae Pecyn Gwasanaeth 2 (SP2) Pecyn Rhyngwyneb Iaith Microsoft Office 2007 yn dod â diweddariadau i Becynnau Rhyngwyneb Iaith 2007 i gwsmeriaid. Mae’r Lawrlwythiad hwn yn cynnwys dau fath o gyweiriad:
  • Cyweiriadau nad ydynt wedi eu rhyddhau’n flaenorol a wnaed yn benodol ar gyfer y pecyn gwasanaeth hwn.
    • Yn ogystal â chyweiriadau cyffredinol i’r cynnwys, mae hyn yn cynnwys gwelliannau i sefydlogrwydd, perfformiad a diogelwch.
    • Ceir rhagor o wybodaeth yn Erthygl Cronfa Wybodaeth 953339, ble disgrifir newidiadau penodol i gynnyrch.
  • Pob Diweddariad Cyhoeddus, Diweddariad Diogelwch, Diweddariad Cronnus, a Chyweiriad Poeth a ryddhawyd trwy gydol Chwefror 2009.

Cyn gosod y pecyn gwasanaeth hwn, fe argymhellir yn gryf eich bod yn darllen 953339, sy’n disgrifio rhai o’r gwelliannau mawr a gyflwynwyd gan SP2, a hefyd yn tynnu’ch sylw at rywfaint o wybodaeth bwysig y dylech fod yn ymwybodol ohono cyn gosod.

 Brig y dudalen

Gofynion y System

  • Systemau Gweithredu a Gefnogir Windows Server 2003 Service Pack 2; Windows Server 2008; Windows Vista Service Pack 1; Windows XP Service Pack 2

Bydd Pecyn Gwasanaeth 2 yn diweddaru’r canlynol:
  • Pecynnau Rhyngwyneb Iaith Microsoft® Office 2007

 Brig y dudalen

Cyfarwyddiadau

I osod y diweddariad hwn, gwnewch un o’r canlynol:
  • Defnyddio Diweddariad Microsoft (argymhellir).
    • Mae Diweddariad Microsoft yn cyfuno pob diweddariad i un lleoliad ac yn cynnig y rhai sy’n effeithio ar eich system benodol chi yn unig.
  • Gosod y diweddariad hwn â llaw.
    • Lawrlwythwch y ffeil trwy glicio ar y botwm Lawrlwytho ar y dudalen hon.
    • Arbedwch y ffeil i’ch disg caled.
    • Lleolwch y ffeil .exe yr ydych wedi arbed, cliciwch ddwywaith arni a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

DALIER SYLW: Os ydych yn ceisio gosod y diweddariad hwn ac yn derbyn neges i ddweud bod y diweddariad wedi methu, yna cyfeiriwch at Erthygl Cronfa Wybodaeth 968173. Mae'n disgrifio cyfres o ofynion a materion eraill allai achosi i'r gosodiad fethu, ac yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i'w trwsio.


Gosod SP2 ar gyfer Cynnyrch Office Eraill
Os oes gennych gynnyrch Office eraill wedi eu gosod, diweddarwch nhw hefyd. Ceir rhestr lawn o opsiynau SP2 ar gyfer cynnyrch Office yn Erthygl Cronfa Wybodaeth 968170.


I ddiddymu’r Lawrlwythiad hwn
Pecyn Gwasanaeth 2 yw’r pecyn gwasanaeth cyntaf i gefnogi dadosod cyweirio cwsmer yn y llinell gorchymyn a thrwy ddefnyddio Microsoft Service Pack Uninstall Tool. Mae’r Teclyn Dadosod Pecyn Gwasanaeth ar gael fel Lawrlwythiad ar wahân. Am ragor o wybodaeth ar y teclyn hwn, gweler erthygl Cronfa Wybodaeth Microsoft 954914.


Adnoddau Gweinydd
Gall Gweinyddwyr yn gweithio mewn amgylcheddau rheoledig ddod o hyd i adnoddau cyflawn ar gyfer cyflwyno diweddariadau Office o fewn sefydliad ar safle Pecyn Adnoddau Office 2007.


Gwybodaeth Atodol
Unwaith eto, am ragor o fanylion ar beth sydd wedi ei gynnwys yn y pecyn gwasanaeth hwn, fe’ch anogir i ddarllen Erthygl Cronfa Wybodaeth 953339.

 Brig y dudalen


©2013 Microsoft Corporation. All rights reserved. Cysylltwch â ni |Terms of Use |Trademarks |Privacy Statement