
Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg
Disgrifiad Cyflym
Mae Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg yn rhoi rhyngwyneb defnyddiwr Cymraeg ar gyfer nifer o raglenni Microsoft Office 2007.
Ar y Dudalen Hon
Manylion Cyflym:
| Enw Ffeil: | LanguageInterfacePack.exe |
| Fersiwn: | 1.0 |
| Dyddiad Cyhoeddi: | 14/12/2007 |
| Iaith: | Cymraeg |
| Maint y Ffeil: | 14.8 MB |
| Amcangyfrifiad o'r Amser Llwytho: | 37 mun 56K |
|
| Newid Iaith: | |
Gorolwg
Mae Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg yn rhoi rhyngwyneb defnyddiwr Cymraeg ar gyfer:
- Microsoft Office Excel 2007
- Microsoft Office Outlook 2007
- Microsoft Office PowerPoint 2007
- Microsoft Office Word 2007
Brig y dudalen
Gofynion y System
- Systemau Gweithredu a Gefnogir Windows Vista; Windows XP Service Pack 2
- Meddalwedd gofynnol: Fersiwn Saesneg (UDA) unrhyw un o gynhyrchion Microsoft Office 2007, sy'n cynnwys Excel, Outlook, PowerPoint neu Word.
- Gofynion o ran lle ar y ddisg: Yn ogystal â'r lle ar y ddisg galed a ddefnyddir ar hyn o bryd gan raglenni Office 2007 sydd wedi'u gosod eisoes, mae angen 20 megabeit (MB) o le rhydd ar y ddisg galed.
Brig y dudalen
Cyfarwyddiadau
I osod y pecyn iaith:
- Llwythwch y ffeil LanguageInterfacePack.exe i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
- Dwbl-gliciwch y ffeil rhaglen LanguageInterfacePack.exe ar eich disg galed i gychwyn y rhaglen Gosod.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau'r broses gosod.
- Ar ôl gosod, gallwch weld ffeil gwybodaeth eich Microsoft Office 2007 Language Interface Pack yn C:\Program Files\Common Files\microsoft shared\OFFICE12\LCID\LIPread.htm
- Does dim modd diweddaru Office 2003 gydag Office 2003 Language Interface Pack i Office 2007 gydag Office 2007 Language Interface Pack. Er mwyn uwchraddio eich gosodiad sylfaenol Office 2003 i Office 2007 gydag Office 2007 Language Interface Pack, dylech wneud y canlynol:
- Dadosod Office 2003 Language Interface Pack
- Rhedeg rhaglen gosod Office 2007 a dewis uwchraddio.
- Ar ôl gorffen gosod Office 2007, gosodwch Becyn Rhyngwyneb Iaith Office 2007
a'i ffurfweddu
Cyfarwyddiadau defnyddio:
I newid eich Rhyngwyneb Defnyddiwr i iaith Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg, dilynwch y camau hyn:
- Lansiwch Osodiadau Iaith Microsoft Office 2007 o'r ddewislen Cychwyn\Pob Rhaglen\Microsoft Office\Offer Microsoft Office.
- Dewiswch y tab Iaith y Dangosiad ac yn y gwymprestr Dangos dewislenni a blychau deialog Microsoft Office yn:, dewiswch yr iaith yr hoffech ei dangos. Wedi i chi ddewis iaith, dylai gael ei dangos yn ddiofyn.
- Yn y tab Iaith y Dangosiad gallwch ddewis i iaith rhyngwyneb Office gyd-fynd â'r iaith rydych wedi gosod Windows i ymddangos ynddi. Caiff eich iaith Windows gyfredol ei rhestru. Os hoffech i iaith rhyngwyneb Office gyd-fynd ag iaith Windows, dewiswch y blwch ticio Gosod iaith dangosiad Microsoft Office i gyfateb ag iaith dangosiad Windows. Mae'r gosodiad hwn yn diystyru'r dewis a wnewch yn y rhestr Dangos dewislenni a blychau deialog Microsoft Office.
- Yn y tab Ieithoedd Golygu, dewiswch yr iaith yr ydych am ei galluogi o'r rhestr Ieithoedd Golygu sydd ar Gael a chliciwch Ychwanegu. Yna, dylai'r iaith a ddewiswch fod wedi'i chynnwys yn y rhestr Ieithoedd Golygu sydd wedi'u Galluogi.
- Yn y tab Ieithoedd Golygu, dewiswch yr iaith yr hoffech ei phennu'n Brif Iaith Golygu o'r rhestr Prif Iaith Golygu.
- Cliciwch y botwm Iawn.
Daw'r gosodiadau iaith a ddewiswyd gennych i rym y tro nesaf y cychwynnwch eich rhaglenni Office.
Nodyn: Does dim modd newid iaith Help i iaith Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg. Bydd Help yn aros yn iaith eich gosodiad gwreiddiol bob amser.
Dewiswch yr iaith sylfaenol ar gyfer help yn y gwymplen bob amser.
I dynnu'r pecyn iaith hwn:
Dilynwch y camau hyn ar Windows XP Home neu Professional Edition:
- Caewch bob rhaglen.
- Dwbl-gliciwch yr eicon Ychwanegu neu Dynnu Rhaglenni ym Mhanel Rheoli Windows.
- Cliciwch Microsoft Office Language Interface Pack 2007 yn y blwch Rhaglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, yna cliciwch y botwm Tynnu.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Dilynwch y camau hyn ar Windows Vista:
- Caewch bob rhaglen.
- Dwbl-gliciwch yr eicon Rhaglenni a Nodweddion ar Banel Rheoli Windows.
- Yn y dewis Dadosod neu Newid Rhaglen, cliciwch Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg yn y blwch Rhaglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, yna dewiswch Dadosod.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Brig y dudalen