Cliciwch Yma i Osod Silverlight*
WelshNewid| Pob Safle Microsoft
Microsoft
Canolfan Llwytho i Lawr 
Chwilio
Chwiliad Manwl

Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg

Disgrifiad Cyflym
Mae Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg yn rhoi rhyngwyneb defnyddiwr Cymraeg ar gyfer nifer o raglenni Microsoft Office 2007.

Ar y Dudalen Hon

Manylion Cyflym:
Enw Ffeil:LanguageInterfacePack.exe
Fersiwn:1.0
Dyddiad Cyhoeddi:14/12/2007
Iaith:Cymraeg
Maint y Ffeil:14.8 MB
Amcangyfrifiad o'r Amser Llwytho: 37 mun 56K

Newid Iaith:
  

Gorolwg

Mae Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg yn rhoi rhyngwyneb defnyddiwr Cymraeg ar gyfer:
  • Microsoft Office Excel 2007

  • Microsoft Office Outlook 2007

  • Microsoft Office PowerPoint 2007

  • Microsoft Office Word 2007

 Brig y dudalen

Gofynion y System

  • Systemau Gweithredu a Gefnogir Windows Vista; Windows XP Service Pack 2
  • Meddalwedd gofynnol: Fersiwn Saesneg (UDA) unrhyw un o gynhyrchion Microsoft Office 2007, sy'n cynnwys Excel, Outlook, PowerPoint neu Word.
  • Gofynion o ran lle ar y ddisg: Yn ogystal â'r lle ar y ddisg galed a ddefnyddir ar hyn o bryd gan raglenni Office 2007 sydd wedi'u gosod eisoes, mae angen 20 megabeit (MB) o le rhydd ar y ddisg galed.

 Brig y dudalen

Cyfarwyddiadau

I osod y pecyn iaith:
  1. Llwythwch y ffeil LanguageInterfacePack.exe i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
  2. Dwbl-gliciwch y ffeil rhaglen LanguageInterfacePack.exe ar eich disg galed i gychwyn y rhaglen Gosod.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau'r broses gosod.
  4. Ar ôl gosod, gallwch weld ffeil gwybodaeth eich Microsoft Office 2007 Language Interface Pack yn C:\Program Files\Common Files\microsoft shared\OFFICE12\LCID\LIPread.htm
  5. Does dim modd diweddaru Office 2003 gydag Office 2003 Language Interface Pack i Office 2007 gydag Office 2007 Language Interface Pack. Er mwyn uwchraddio eich gosodiad sylfaenol Office 2003 i Office 2007 gydag Office 2007 Language Interface Pack, dylech wneud y canlynol:
    • Dadosod Office 2003 Language Interface Pack
    • Rhedeg rhaglen gosod Office 2007 a dewis uwchraddio.
    • Ar ôl gorffen gosod Office 2007, gosodwch Becyn Rhyngwyneb Iaith Office 2007 a'i ffurfweddu


Cyfarwyddiadau defnyddio:

I newid eich Rhyngwyneb Defnyddiwr i iaith Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg, dilynwch y camau hyn:

  1. Lansiwch Osodiadau Iaith Microsoft Office 2007 o'r ddewislen Cychwyn\Pob Rhaglen\Microsoft Office\Offer Microsoft Office.
  2. Dewiswch y tab Iaith y Dangosiad ac yn y gwymprestr Dangos dewislenni a blychau deialog Microsoft Office yn:, dewiswch yr iaith yr hoffech ei dangos. Wedi i chi ddewis iaith, dylai gael ei dangos yn ddiofyn.
  3. Yn y tab Iaith y Dangosiad gallwch ddewis i iaith rhyngwyneb Office gyd-fynd â'r iaith rydych wedi gosod Windows i ymddangos ynddi. Caiff eich iaith Windows gyfredol ei rhestru. Os hoffech i iaith rhyngwyneb Office gyd-fynd ag iaith Windows, dewiswch y blwch ticio Gosod iaith dangosiad Microsoft Office i gyfateb ag iaith dangosiad Windows. Mae'r gosodiad hwn yn diystyru'r dewis a wnewch yn y rhestr Dangos dewislenni a blychau deialog Microsoft Office.
  4. Yn y tab Ieithoedd Golygu, dewiswch yr iaith yr ydych am ei galluogi o'r rhestr Ieithoedd Golygu sydd ar Gael a chliciwch Ychwanegu. Yna, dylai'r iaith a ddewiswch fod wedi'i chynnwys yn y rhestr Ieithoedd Golygu sydd wedi'u Galluogi.
  5. Yn y tab Ieithoedd Golygu, dewiswch yr iaith yr hoffech ei phennu'n Brif Iaith Golygu o'r rhestr Prif Iaith Golygu.
  6. Cliciwch y botwm Iawn.

Daw'r gosodiadau iaith a ddewiswyd gennych i rym y tro nesaf y cychwynnwch eich rhaglenni Office.
Nodyn: Does dim modd newid iaith Help i iaith Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg. Bydd Help yn aros yn iaith eich gosodiad gwreiddiol bob amser.
Dewiswch yr iaith sylfaenol ar gyfer help yn y gwymplen bob amser.

I dynnu'r pecyn iaith hwn:
    Dilynwch y camau hyn ar Windows XP Home neu Professional Edition:
  1. Caewch bob rhaglen.
  2. Dwbl-gliciwch yr eicon Ychwanegu neu Dynnu Rhaglenni ym Mhanel Rheoli Windows.
  3. Cliciwch Microsoft Office Language Interface Pack 2007 yn y blwch Rhaglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, yna cliciwch y botwm Tynnu.
  4. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

    Dilynwch y camau hyn ar Windows Vista:
  1. Caewch bob rhaglen.
  2. Dwbl-gliciwch yr eicon Rhaglenni a Nodweddion ar Banel Rheoli Windows.
  3. Yn y dewis Dadosod neu Newid Rhaglen, cliciwch Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg yn y blwch Rhaglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, yna dewiswch Dadosod.
  4. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

 Brig y dudalen

Beth mae pobl eraill yn ei lwytho i'w cyfrifiaduron

Fe wnaeth pobl eraill a lwythodd Microsoft Office Language Interface Pack 2007 – Cymraeg i lawr hefyd lwytho:
  1. Office XP Welsh Proofing Tools Add-in
  2. Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Office 2003

 Brig y dudalen


©2009 Microsoft Corporation. All rights reserved. Cysylltwch â ni |Terms of Use |Trademarks |Privacy Statement