*
Microsoft*
Results by Bing
Canolfan Llwytho i Lawr 
Chwilio
Chwiliad Manwl

Microsoft Office Language Interface Pack 2010 – Cymraeg

Disgrifiad Cyflym
Mae Microsoft Office Language Interface Pack 2010 – Cymraeg yn rhoi rhyngwyneb defnyddiwr Cymraeg ar gyfer nifer o raglenni Microsoft Office 2010.

Ar y Dudalen Hon

Manylion Cyflym:
Fersiwn:1
Dyddiad Cyhoeddi:17/12/2010
Iaith:Cymraeg
Maint y Ffeil:206 KB - 34.2 MB*
*Mae maint y ffeiliau i'w llwytho i lawr yn yn dibynnu ar y cydrannau a ddewiswyd i'w llwytho i lawr:

Newid Iaith:
  

Gorolwg

Mae Microsoft Office Language Interface Pack 2010 – Cymraeg yn rhoi rhyngwyneb defnyddiwr Cymraeg ar gyfer:
  • Microsoft Office Excel 2010

  • Microsoft Office OneNote 2010

  • Microsoft Office Outlook 2010

  • Microsoft Office PowerPoint 2010

  • Microsoft Office Word 2010

 Brig y dudalen

Gofynion y System

  • Systemau Gweithredu a Gefnogir Windows 7; Windows Vista; Windows XP
  • Rhaid cael y meddalwedd canlynol: Unrhyw gyfres neu gopi annibynnol o Microsoft Office 2010 sy'n cynnwys un neu fwy o'r rhaglenni canlynol: Excel, OneNote, Outlook, PowerPoint neu Word.
  • Rhaid cael hyn o le ar y ddisg: Ar ben y lle ar y ddisg sy'n cael ei ddefnyddio gan y rhaglenni Office 2010 sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, rhaid cael 20 megabeit (MB) o le gwag ar y ddisg galed.

 Brig y dudalen

Cyfarwyddiadau

I osod hwn:
  1. Llwythwch y ffeil LanguageInterfacePack.exe i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i Lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
  2. Dwbl-gliciwch y ffeil LanguageInterfacePack.exe ar eich disg galed i ddechrau'r rhaglen Gosod.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i orffen gosod.
  4. Ar ôl gosod, bydd y ffeil gwybodaeth ar gyfer eich Pecyn Rhyngwyneb Iaith Microsoft Office 2010 ar gael yn C:\Program Files\Common Files\microsoft shared\OFFICE14\LCID\LIPread.htm
  5. Does dim modd uwchraddio Office 2007 gyda Phecyn Rhyngwyneb Iaith Office 2007 na fersiwn cynharach i Office 2010 gyda Phecyn Rhyngwyneb Iaith 2010. Os ydych chi am uwchraddio o Office 2007 i Office 2010 gyda Phecyn Rhyngwyneb Iaith Office 2010 dylech chi:
    • Dadosod Office 2007 Language Interface Pack
    • Rhedeg rhaglen gosod Office 2010 a dewis uwchraddio.
    • Ar ôl gorffen gosod Office 2010, gosodwch a ffurfweddu Office 2010 Language Interface Pack


    • Ysgogi eich cynnyrch Office:
    • Os ydych chi'n cael trafferth yn darllen y Cod Gosod i gyd yn y blwch deialog "Microsoft Office Activation Wizard", neu dydy'r cod gosod ddim yn ymddangos yn iawn wrth ddefnyddio eich Microsoft® Office Language Interface Pack 2010, canslwch y dewin a newid i'ch cynnyrch Saesneg er mwyn ysgogi eich cynnyrch Microsoft Office.


Cyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio:

I newid Rhyngwyneb y Defnyddiwr i iaith Microsoft Office Language Interface Pack 2010– Cymraeg, dilynwch y camau hyn:

  1. Lansiwch Dewisiadau Iaith Microsoft Office 2010 o'r ddewislen Cychwyn\Pob Rhaglen\Microsoft Office\Offer Microsoft Office .
  2. Dan Dewis Iaith y Dangosiad a Help, dan Iaith y Dangosiad dewiswch iaith a chlicio'r botwm Rhagosod .
  3. Dan Dewis Ieithoedd Golygu, dewiswch yr iaith a chlicio'r botwm Rhagosod .
  4. Cliciwch y botwm Iawn .

Bydd y gosodiadau iaith rydych chi wedi'u dewis yn dod i rym y tro nesaf byddwch chi'n cychwyn rhaglenni Office.
Cofiwch: Does dim modd newid Help i iaith Microsoft Office Language Interface Pack 2010– Cymraeg. Bydd Help bob amser yn yr iaith sylfaen.
Gosodwch eich help yn y cwymprestr i'r iaith sylfaen bob tro.

I dynnu hwn:
    Dilynwch y camau hyn gyda Windows XP Home neu Professional:
  1. Caewch bob rhaglen.
  2. Dwbl-gliciwch yr eicon Ychwanegu neu Dynnu Rhaglenni Ym Mhanel Rheoli Windows.
  3. Cliciwch Microsoft Office Language Interface Pack 2010 yn y blwch Rhaglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, wedyn clicio'r botwm Tynnu .
  4. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

    Dilynwch y camau hyn ar Windows Vista neu Windows 7:
  1. Caewch pob rhaglen.
  2. Dwbl-gliciwch yr eicon Rhaglenni a Nodweddion ym Mhanel Rheoli Windows.
  3. Yn y dewis Dadosod neu Newid Rhaglen, cliciwch Microsoft Office Language Interface Pack 2010–Cymraeg yn y blwch Rhaglenni wedi'u gosod ar hyn o bryd, dewiswch Dadosod .
  4. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.



Os allwch chi ddim gweld cynnwys y ffeil CHM ar ôl ei llwytho i lawr, gallwch ddilyn y camau canlynol a fydd yn eich galluogi i weld y cynnwys :
  1. Agorwch y ffolder lle roeddech chi wedi llwytho'r ffeil CHM i lawr.
  2. De-gliciwch ar y CHM ac o'r ddewislen a fydd yn ymddangos, dewiswch Priodweddau.
  3. Dan y tab Cyffredinol, cliciwch y botwm Dadrwystro ac wedyn clicio'r botwm Iawn.
  4. Dwbl-gliciwch ar y ffeil CHM a byddwch chi nawr yn gallu gweld ei chynnwys.

 Brig y dudalen

Rhestr o Ffeiliau i'w llwytho i lawr

Mae'r cysylltiadau yn yr adran hon yn cyfateb i ffeiliau ar wahân sydd ar gael i'w llwytho i lawr. Llwytho'r ffeiliau i lawr sydd fwyaf priodol i chi.
Enw Ffeil:Maint Ffeil

LanguageInterfacePack-x64-cy-gb.exe

17.8 MB

LanguageInterfacePack-x86-cy-gb.exe

16.3 MB

O14LipHelp.chm

206 KB

 Brig y dudalen

 Brig y dudalen

Beth mae pobl eraill yn ei lwytho i'w cyfrifiaduron

Fe wnaeth pobl eraill a lwythodd Microsoft Office Language Interface Pack 2010 – Cymraeg i lawr hefyd lwytho:
  1. Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows 7
  2. Language Interface Pack Microsoft® Office 2013 – Cymraeg

 Brig y dudalen


©2013 Microsoft Corporation. All rights reserved. Cysylltwch â ni |Terms of Use |Trademarks |Privacy Statement