
Pecyn Iaith Windows SharePoint Services 3.0
Disgrifiad Cyflym
Gyda'r pecyn templed iaith hwn, gallwch greu safleoedd SharePoint mewn ieithoedd ar wahân i'r iaith ddiofyn a ddewiswyd wrth osod.
Ar y Dudalen Hon
Manylion Cyflym:
| Enw Ffeil: | SharePointLanguagePack.exe |
| Fersiwn: | 1 |
| Dyddiad Cyhoeddi: | 29/05/2009 |
| Iaith: | Cymraeg |
| Maint y Ffeil: | 8.8 MB |
| Amcangyfrifiad o'r Amser Llwytho: | 22 mun 56K |
|
| Newid Iaith: | |
Gorolwg
Mae pecynnau iaith yn golygu bod modd creu gwefannau mewn ieithoedd gwahanol; gallwch osod sawl pecyn iaith ar yr un gweinydd.
Gyda'r pecyn templed iaith hwn, gallwch greu gwefannau mewn ieithoedd ar wahân i'r iaith ddiofyn a ddewiswyd wrth osod. Nodyn Does dim angen i chi lwytho pecyn iaith i lawr ar gyfer yr iaith rydych chi wedi'i dewis wrth osod.
Mae angen i chi osod Office SharePoint Server 2007 SP2 cyn gosod y Pecyn Iaith hwn.
Mae angen i chi osod Diweddariad Cronnus Ebrill 2009 cyn gosod y Pecyn Iaith hwn.
Brig y dudalen
Gofynion y System
- Systemau Gweithredu a Gefnogir Windows Server 2003 Service Pack 2
Brig y dudalen
Cyfarwyddiadau
I osod hwn:
- Llwythwch y ffeil i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i Lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
- Dwbl gliciwch y ffeil rhaglen SharePointLanguagePack.exe ar y ddisg galed i ddechrau'r rhaglen Gosod.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau'r gosod.
Cyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio:
I gael cyfarwyddiadau a gwybodaeth am ei ddefnyddio, edrychwch ar y safle Windows SharePoint Services yn Windows Server 2003.
I dynnu hwn:
- Ar y ddewislen Cychwyn, pwyntiwch at Gosodiadau ac wedyn clicio Panel Rheoli.
- Dwbl gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
- Yn y rhestr o raglenni sydd wedi'u gosod, dewiswch Pecyn Iaith SharePoint ac wedyn clicio Tynnu neu Ychwanegu/Tynnu. Os bydd blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu'r rhaglen.
- Cliciwch Iawn i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.
Brig y dudalen
Brig y dudalen