Cliciwch Yma i Osod Silverlight*
WelshNewid| Pob Safle Microsoft
Microsoft
Canolfan Llwytho i Lawr 
Chwilio
Chwiliad Manwl

Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Office 2003

Disgrifiad Cyflym
Mae'r Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) ar gyfer Microsoft Office 2003 yn darparu rhyngwyneb defnyddiwr Cymraeg (DU) ar gyfer nifer o raglenni Microsoft Office 2003.

Ar y Dudalen Hon

Manylion Cyflym:
Enw Ffeil:LIP.EXE
Fersiwn:1.0
Dyddiad Cyhoeddi:01/12/2004
Iaith:Cymraeg
Maint y Ffeil:6.5 MB
Amcangyfrifiad o'r Amser Llwytho: 16 mun 56K

Newid Iaith:
  

Gorolwg

Mae Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Office 2003 yn cynnig cyfieithiad o ryngwyneb defnyddiwr rhaglenni canlynol:

  • Microsoft Office Word 2003

  • Microsoft Office Outlook® 2003

  • Microsoft Office PowerPoint® 2003

  • Microsoft Office Excel 2003

 Brig y dudalen

Gofynion y System

  • Systemau Gweithredu a Gefnogir Windows XP Service Pack 2
  • Meddalwedd angenrheidiol: Fersiwn Saesneg (Unol Daleithiau America) o unrhyw argraffiad o Office 2003 — er enghraifft, Argraffiad Proffesiynol Microsoft Office 2003 neu Argraffiad Safonol Microsoft Office 2003 — neu fersiwn Saesneg (Unol Daleithiau America) un o raglenni unigol Office 2003 sy'n darparu ar gyfer Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Office 2003 — Excel 2003, Outlook 2003, PowerPoint 2003, neu Word 2003.
    Hefyd mae modd gosod Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Office 2003 gydag unrhyw Becyn Rhyngwyneb Defnyddiwr Amlieithog sy'n darparu ar gyfer y Saesneg (Unol Daleithiau America)

 Brig y dudalen

Cyfarwyddiadau

I osod hwn:
  1. Llwythwch y ffeil LIP.exe i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
  2. Dwbl-gliciwch y ffeil rhaglen LIP.exe ar eich disg galed i gychwyn y rhaglen Osod.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau'r gosod.

Cyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio:

I newid eich Rhyngwyneb Defnyddiwr i iaith Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Office 2003, dilynwch y camau hyn:

  1. Ar y ddewislen Cychwyn pwyntiwch at Pob Rhaglen, pwyntiwch at Microsoft Office, pwyntiwch at Offer Microsoft Office, ac wedyn cliciwch Gosodiadau Iaith Microsoft Office 2003.
  2. Ar y tab Rhyngwyneb Defnyddiwr a Help yn y rhestr Dangos Office 2003 yn dewiswch yr iaith rydych chi am ei dangos.
  3. Cliciwch Iawn.


Daw'r gosodiadau iaith ddewiswch chi i rym y tro nesaf y byddwch chi'n cychwyn eich rhaglenni Office.


I dynnu'r pecyn hwn oddi ar eich cyfrifiadur:
  1. Caewch bob rhaglen.
  2. Ar y ddewislen Cychwyn pwyntiwch at Gosodiadau ac wedyn cliciwch Panel Rheoli.
  3. Dwbl-gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
  4. Yn y rhestr o raglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, cliciwch Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Argraffiad Microsoft Office 2003, ac wedyn cliciwch Tynnu neu Ychwanegu/Tynnu. Os oes blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu'r rhaglen.
  5. Cliciwch Ydy neu Iawn i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.

 Brig y dudalen

 Brig y dudalen


©2013 Microsoft Corporation. All rights reserved. Cysylltwch â ni |Terms of Use |Trademarks |Privacy Statement