
Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Office 2003
Disgrifiad Cyflym
Mae'r Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) ar gyfer Microsoft Office 2003 yn darparu rhyngwyneb defnyddiwr Cymraeg (DU) ar gyfer nifer o raglenni Microsoft Office 2003.
Ar y Dudalen Hon
Manylion Cyflym:
| Enw Ffeil: | LIP.EXE |
| Fersiwn: | 1.0 |
| Dyddiad Cyhoeddi: | 01/12/2004 |
| Iaith: | Cymraeg |
| Maint y Ffeil: | 6.5 MB |
| Amcangyfrifiad o'r Amser Llwytho: | 16 mun 56K |
|
| Newid Iaith: | |
Gorolwg
Mae Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Office 2003 yn cynnig cyfieithiad o ryngwyneb defnyddiwr rhaglenni canlynol:
- Microsoft Office Word 2003
- Microsoft Office Outlook® 2003
- Microsoft Office PowerPoint® 2003
- Microsoft Office Excel 2003
Brig y dudalen
Gofynion y System
- Systemau Gweithredu a Gefnogir Windows XP Service Pack 2
-
Meddalwedd angenrheidiol:
Fersiwn Saesneg (Unol Daleithiau America) o unrhyw argraffiad o Office 2003 — er enghraifft, Argraffiad Proffesiynol Microsoft Office 2003 neu Argraffiad Safonol Microsoft Office 2003 — neu fersiwn Saesneg (Unol Daleithiau America) un o raglenni unigol Office 2003 sy'n darparu ar gyfer Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Office 2003 — Excel 2003, Outlook 2003, PowerPoint 2003, neu Word 2003.
Hefyd mae modd gosod Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Office 2003 gydag unrhyw Becyn Rhyngwyneb Defnyddiwr Amlieithog sy'n darparu ar gyfer y Saesneg (Unol Daleithiau America)
Brig y dudalen
Cyfarwyddiadau
I osod hwn:
- Llwythwch y ffeil LIP.exe i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
- Dwbl-gliciwch y ffeil rhaglen LIP.exe ar eich disg galed i gychwyn y rhaglen Osod.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau'r gosod.
Cyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio:
I newid eich Rhyngwyneb Defnyddiwr i iaith Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Office 2003, dilynwch y camau hyn:
- Ar y ddewislen Cychwyn pwyntiwch at Pob Rhaglen, pwyntiwch at Microsoft Office, pwyntiwch at Offer Microsoft Office, ac wedyn cliciwch Gosodiadau Iaith Microsoft Office 2003.
- Ar y tab Rhyngwyneb Defnyddiwr a Help yn y rhestr Dangos Office 2003 yn dewiswch yr iaith rydych chi am ei dangos.
- Cliciwch Iawn.
Daw'r gosodiadau iaith ddewiswch chi i rym y tro nesaf y byddwch chi'n cychwyn eich rhaglenni Office.
I dynnu'r pecyn hwn oddi ar eich cyfrifiadur:
- Caewch bob rhaglen.
- Ar y ddewislen Cychwyn pwyntiwch at Gosodiadau ac wedyn cliciwch Panel Rheoli.
- Dwbl-gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
- Yn y rhestr o raglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, cliciwch Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg (DU) Argraffiad Microsoft Office 2003, ac wedyn cliciwch Tynnu neu Ychwanegu/Tynnu. Os oes blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu'r rhaglen.
- Cliciwch Ydy neu Iawn i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.
Brig y dudalen
Brig y dudalen
Brig y dudalen