Cliciwch Yma i Osod Silverlight*
WelshNewid| Pob Safle Microsoft
Microsoft
Canolfan Llwytho i Lawr 
Chwilio
Chwiliad Manwl

Canolfan Llwytho i Lawr Microsoft: Help

On This Page
Beth Ddylech ei Wybod am Ddiweddariadau MeddalweddBeth Ddylech ei Wybod am Ddiweddariadau Meddalwedd
Sut i Ddod o Hyd i Ffeiliau i'w llwytho i lawrSut i Ddod o Hyd i Ffeiliau i'w llwytho i lawr
Methu Dod o Hyd i'r Hyn yr Ydych yn Chwilio Amdano?Methu Dod o Hyd i'r Hyn yr Ydych yn Chwilio Amdano?
Beth a Welwch ar Dudalennau Llwytho i LawrBeth a Welwch ar Dudalennau Llwytho i Lawr
Ynglŷn â Windows Genuine AdvantageYnglŷn â Windows Genuine Advantage
Gosod Ffeiliau rydych wedi eu llwytho i lawrGosod Ffeiliau rydych wedi eu llwytho i lawr
Ynglŷn â Ffeiliau Rhyngwladol i'w llwytho i lawrYnglŷn â Ffeiliau Rhyngwladol i'w llwytho i lawr
Datrys Problemau gyda'r Broses Llwytho i LawrDatrys Problemau gyda'r Broses Llwytho i Lawr
Ynglŷn ag Argymhellion Llwytho i LawrYnglŷn ag Argymhellion Llwytho i Lawr

Beth Ddylech ei Wybod am Ddiweddariadau Meddalwedd

Mae Microsoft wedi ymrwymo i ddarparu meddalwedd i'w gwsmeriaid sydd wedi cael ei brofi o ran ei ddiogelwch. Er nad oes unrhyw system sy'n hollol ddiogel, rydym yn defnyddio prosesau pobl, technoleg a nifer o dimau sydd â ffocws arbennig i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â diogelwch, eu trwsio a dysgu oddi wrthynt er mwyn ein helpu i ddiwallu'r nod hwn yn ogystal â darparu arweiniad i gwsmeriaid am sut mae amddiffyn eu hunain. Fel rhan o broses rhyddhau meddalwedd Microsoft, caiff yr holl feddalwedd sy'n cael ei ryddhau i'r Ganolfan Llwytho i Lawr ei sganio am feddalwedd maleisus cyn iddo fod ar gael i'r cyhoedd ei lwytho i lawr. Ar ben hynny, ar ôl ei ryddhau, mae'r meddalwedd sydd ar gael yn y ganolfan llwytho i lawr yn cael ei sganio am feddalwedd maleisus yn rheolaidd. Mae Microsoft yn cydnabod bod yr amgylchedd bygythiadau'n newid yn gyson a bydd yn parhau i esblygu dros amser, ac rydym wedi ymrwymo i wella'r broses a fydd yn helpu i amddiffyn ein cwsmeriaid rhag bygythiadau meddalwedd maleisus.

Mae Canolfan Llwytho i Lawr Microsoft yn adnodd gwerthfawr ar gyfer dod o hyd i ffeiliau penodol neu boblogaidd i'w llwytho i lawr, gan gynnwys diweddariadau meddalwedd. Fodd bynnag, y ffordd hawsaf o gadw'ch cyfrifiadur yn gyfredol gyda'r meddalwedd blaenoriaeth uchel diweddaraf yw defnyddio'r adnoddau diweddaru hyn:

Microsoft Update
Mae'r wefan Microsoft Update yn sganio eich cyfrifadur ac yn argymhell diweddariadau y gallai fod arnoch eu hangen ar gyfer Microsoft Windows, Microsoft Office, a rhaglenni eraill.

Diweddariadau Awtomatig Windows
Gall y nodwedd Diweddariadau Awtomatig gael ei osod i lwytho i Lawr a gosod diweddariadau blaenoriaeth uchel yn awtomatig cyn gynted ag y byddent ar gael. Cewch wybod mwy ar Wefan Diogelu eich Cyfrifiadur.

Sut i Ddod o Hyd i Ffeiliau i'w llwytho i lawr

Os hoffech i Microsoft sganio eich cyfrifiadur ac argymell diweddariadau, ewch i'r adran flaenorol os gwelwch yn dda. Os hoffech chwilio am ffeiliau penodol i'w llwytho i lawr, defnyddiwch un o'r ddau ddull hyn.

1.

Dewisiwch o'r Ffeiliau Mwyaf Poblogaidd i'w llwytho i lawr
Mae'r ffeiliau mwyaf poblogaidd i'w llwytho i lawr ar gyfer pob categori o'r Ganolfan Llwytho i Lawr wedi eu rhestru ar y tudalennau hafan ar gyfer y categorïau hynny (categorïau enghreifftiol: Gemau, DirectX, a'r Rhyngrwyd). Cliciwch y cysylltiad "Gweler y Ffeiliau Poblogaidd Ychwanegol" o dan y rhestr "Ffeiliau Poblogaidd" am restr fwy cyflawn o ffeiliau i'w llwytho i lawr, yn nhrefn poblogrwydd.

2.

Cynnal Chwiliad
Mae'r offer chwilio yn gadael i chi chwilio yn ôl allweddair neu gynnyrch/categori, a rhestru'r canlyniadau yn nhrefn poblogrwydd.

I chwilio yn ôl allweddair, teipiwch eiriau y blwch testun.

Er mwyn culhau cwmpas y chwiliad yn ôl allweddair, dewiswch gynnyrch neu gategori o'r rhestr, a theipio allweddair.

Er mwyn rhestru pob ffeil i'w llwytho i lawr ymhob categori, peidiwch â dewis cynnyrch/categori a pheidiwch â theipio allweddeiriau.

Os na fydd chwiliad yn ôl allweddair yn cynhyrchu ond ychydig ganlyniadau, gwiriwch eich sillafu, rhowch gynnig ar allweddeiriau eraill, neu ehangwch gwmpas eich chwiliad i'r Ganolfan Llwytho i Lawr yn ei chyfanrwydd.

Methu Dod o Hyd i'r Hyn yr Ydych yn Chwilio Amdano?

Os na allwch ddod o hyd i ffeil benodol i'w llwytho i lawr, fe allai fod ar gael gan gwmni heblaw am Microsoft. Mae enghreifftiau poblogaidd yn cynnwys Adobe Reader, Macromedia Shockwave a chwaraewyr Flash, a meddalwedd Java. Ar gyfer y dolenni i'r ffeiliau hyn i'w llwytho i lawr ar eu Gwefannau perthnasol, defnyddiwch Chwiliad Microsoft.com. Os ydych yn bendant eich barn bod y ffeil benodol gan Microsoft ac yn methu dod o hyd i'r ffeil yn y Ganolfan Llwytho i Lawr neu drwy ein gwasanaethau diweddaru awtomatig, Cysylltwch â Ni.

Beth a Welwch ar Dudalennau Llwytho i Lawr

Pan fyddwch yn clicio ar deitl ffeil yn y Ganolfan Llwytho i Lawr, cewch eich cyfeirio i'r dudalen manylion Llwytho i Lawr ar gyfer y ffeil honno. Bydd y rhan fwyaf o'r tudalennau hyn yn dilyn ffurf safonol ac yn cynnwys y rhan fwyaf - os nad y cyfan - o'r adrannau hyn.

1.

Gwybodaeth Gyflym
Mae'r blwch "Gwybodaeth Gyflym" yn cynnwys crynodeb o wybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys enw a maint y ffeil a dyddiad ei chyhoeddi.

2.

Botwm neu Gysylltiad Llwytho i Lawr:
Fe welwch y botwm neu'r cysylltiad Llwytho i Lawr yng nghornel dde uchaf y blwch "Gwybodaeth Gyflym". Cliciwch y botwm neu gysylltiad i ddechrau llwytho. Wrth lwytho sawl ffeil i lawr ar y tro, fe welwch gysylltiad â'r rhestr ffeiliau sydd ar gael.

3.

Newid iaith
Yn amlach na pheidio, yn union o dan y blwch "Gwybodaeth Gyflym" fe welwch gwymprestr ble y gallwch ddewis iaith ar wahân i Saesneg. Sylwch nad yw pob ffeil ar gael i'w llwytho i lawr ym mhob iaith. Hefyd, nid pob ffeil sydd heb fod yn Saesneg sydd â thudalennau manylion wedi eu cyfieithu. Felly, mae'n bosibl y cewch ddisgrifiadau a chyfarwyddiadau Saesneg ar dudalennau ar gyfer ffeiliau i'w llwytho i lawr sydd heb fod yn Saesneg.

4.

Gorolwg
Mae'r adran "Gorolwg" yn cynnwys esboniad byr ar y materion a drinnir gan y ffeil hona'r manteision mae'n eu cynnig.

5.

Gofynion y System
Gwiriwch "Ofynion y System" bob tro i ofalu bod eich cyfrifiadur yn gallu derbyn y ffeil i'w llwytho i lawr a bod digon o ofod i'w gosod a'i rhedeg. Mae'n bosibl y bydd yr adran hon hefyd yn rhestru meddalwedd angenrheidiol neu feddalwedd yr argymhellir i chi ei llwytho i lawr.

6.

Cyfarwyddiadau
Adolygwch yr adran "Cyfarwyddiadau" cyn clicio'r botwm Llwytho i Lawr fel eich bod yn barod am unrhyw gamau y gallai fod angen i chi eu dilyn.

7.

Llwytho i lawr Sawl Ffeil ar y tro
Os gwelwch dabl yn rhestru ffeiliau i'w llwytho i lawr ar y tro, mae'r ffeiliau mor fawr fel y bu'n rhaid eu torri i nifer o ffeiliau i'w Llwytho i Lawr ar wahân.

8.

Beth mae pobl eraill yn ei Lwytho i Lawr
Weithiau gall fod yn ddefnyddiol i weld beth a lwythwyd i lawr gan bobl eraill a allai fod yn gysylltiedig â'r ffeil gyfredol rydych ar fin ei llwytho i lawr. Felly, gallwch weld beth a lwythwyd i lawr gan bobl eraill fu'n Llwytho i Lawr y ffeil sydd ar y dudalen hon.

9.

Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym yn darparu rhagor o wybodaeth sydd naill ai'n uniongyrchol gysylltiedig â'r ffeil gyfredol neu, fel yn yr enghraifft gwybodaeth diweddaru diogelwch, wedi ei bwriadu i gadw eich system i redeg yn ddiogel.

10.

Adnoddau Cysylltiedig
Mae'r cysylltiadau hyn yn mynd â chi i adrannau gwybodaeth, grwpiau newyddion, cynigion arbennig, ac adnoddau eraill sy'n berthnasol i'r ffeil yr ydych wedi dewis ei llwytho i lawr.

Ynglŷn â Windows Genuine Advantage

Efallai y byddwch yn sylwi bod gan rai ffeiliau eicon wrth eu henwau yn y Ganolfan Llwytho i Lawr. Mae gan y ffeiliau hyn hefyd adran wedi ei hamlygu ynglŷn â dilysu Windows o dan y blwch "Gwybodaeth Gyflym" ar dudalennau manylion y ffeil i'w llwytho i lawr. Mae'r ffeiliau hyn yn rhan o raglen Windows Genuine Advantage, a ddatblygwyd i sicrhau bod defnyddwyr Windows yn derbyn yr holl fanteision o redeg copïau dilys gyda thrwydded lawn Windows. I lwytho Windows Genuine Advantage i lawr, dilynwch y broses briodol:

Os gwelwch Fotwm neu Gysylltiad Llwytho i Lawr
Cliciwch y botwm neu'r ddolen i Llwytho'r Ffeil i Lawr.

Os gwelwch Fotwm neu Ddolen Parhau
Cliciwch ar y botwm neu'r ddolen a dilyn y cyfarwyddiadau a roddir. Wedi i'r broses ddilysu orffen, fe'ch dychwelir i dudalen manylion y ffeil i'w llwytho i lawr gyda'r botwm Llwytho i Lawr wedi ei arddangos. Os na ellir dilysu Windows fe gewch gyfarwyddiadau ychwanegol.

Gosod Ffeiliau rydych wedi eu llwytho i lawr

Cyn y medrwch ddefnyddio unrhyw feddalwedd a lwythwch, mae rhaid i chi ei gosod. Er enghraifft, os byddwch yn Llwytho i Lawr diweddariad diogelwch, ond nid yn ei osod, ni fydd y diweddariad yn diogelu eich cyfrifiadur.

1.

Cadw a Gosod
Dilynwch y camau hyn i gadw a gosod ffeil a lwythwch i lawr.

1.

Cliciwch y botwm Llwytho i Lawr ar y dudalen manylion Llwytho i Lawr.

2.

Bydd blwch deialog yn agor. Cliciwch y botwm Cadw .

3.

Gofynnir i chi ddewis lleoliad ar eich cyfrifiadur i gadwâ'r ffeil ynddo. Dewiswch leoliad addas a chliciwch y botwm Cadw .

4.

Pan fydd y ffeil wedi gorffen Llwytho i Lawr, fe welwch flwch deialog arall. Os ydych eisiau gosod y ffeil ar unwaith, cliciwch y botwm Agor . Bydd hyn yn lansio dewin gosod.

5.

Os nad ydych chi ddim eisiau gosod y ffeil ar unwaith, cliciwch y botwm Cau . Pan fyddwch yn barod i osod y ffeil a lwythwyd i Lawr, dwbl-gliciwch ar y ffeil i lansio'r dewin gosod.

Noder Pan fyddwch yn cadw'r ffeil, gofalwch fod y lleoliad yn un y medrwch ei gofio yn nes ymlaen pan fyddwch chi eisiau gosod y ffeil. Awgrymwn eich bod yn creu ffolder arbennig ar eich bwrdd gwaith ble y byddwch yn cadw ffeiliau a lwythwyd i lawr. Dilynwch y camau hyn i ffolder llwytho i lawr o'r fath:

1.

De-gliciwch ran o'ch bwrdd gwaith sydd ddim yn cael ei defnyddio.

2.

Pwyntiwch at Newydd ac yna cliciwch Ffolder.

3.

Rhowch enw i'r ffolder, megis "Ffeiliau dwi wedi eu llwytho i lawr".

Ynglŷn â Ffeiliau Rhyngwladol i'w llwytho i lawr

Mae Microsoft yn cynnig ffeiliau i'w llwytho i lawr mewn mwy na 30 o ieithoedd ledled y byd. Bydd y cyngor yn yr adran hon yn eich helpu i ddod o hyd i ffeiliau rhyngwladol.

Sut i Ddod o Hyd i Ffeiliau Rhnyngwladol
Mae dwy brif ffordd y gallwch ddod o hyd i ffeiliau rhyngwladnol.

1.

Ewch i'r Ganolfan Llwytho i Lawr Fyd-eang.

1.

Cliciwch Ffeiliau Rhyngwladol i'w llwytho i lawr ar ddewislen ochr dde y Ganolfan Llwytho i Lawr.

2.

Cliciwch iaith a ddangosir yn y rhestr. Fe ewch i hafan y Ganolfan Llwytho i Lawr fyd-eang, lle y gallwch bori a chwilio am y ffeiliau sydd ar gael yn eich dewis iaith.

Noder Dangosir y tudalennau manylion Llwytho i Lawr ar safleoedd y Ganolfan Llwytho i Lawr fyd-eang yn yr iaith briodol lle bo'n bosibl. Fodd bynnag, os na fydd manylion iaith benodol, nad yw'n Saesneg, ar gael, dangosir y manylion hynny yn Saesneg. Os nad yw'r ffeil ei hun ar gael mewn iaith benodol, ni fydd i'w gweld ar y safle byd-eang yr ydych wedi ei ddewis.

2.

Dewiswch Ffeil Ryngwladol o'r wefan Saesneg.

1.

Edrychwch yn union o dan y blwch "Gwybodaeth Gyflym" ar y dudalen manylion Llwytho i Lawr am gwymprestr o'r enw "Newid Iaith".

2.

Dewiswch yr iaith rydych ei heisiau a chlicio'r botwm Newid .

Noder Bydd y gwymprestr "Newid Iaith" ond yn ymddangos pan fydd fersiwn byd-eang o'r ffeil ar gael. Os nad yw'r rhestr yn ymddangos, nid yw'r ffeil ar gael eto mewn ieithoedd heblaw Saesneg. Os gwelwch y gwymprestr, ond heb iaith benodol ynddi, nid yw'r ffeil ar gael yn yr iaith honno.

Cefnogir Un Fersiwn Saesneg
Mae'r Ganolfan Llwytho i Lawr bellach yn cyfuno pob ffeil Saesneg i'w llwytho i lawr yn un Ganolfan Llwytho i Lawr "Saesneg". Nid ydym mwyach yn cynnig ffeiliau i'w llwytho i lawr ar wahân ar gyfer Saesneg yr Unol Daleithiau, Saesneg y Deyrnas Unedig, Saesneg Awstralia, a Saesneg Canada.

Datrys Problemau gyda'r Broses Llwytho i Lawr

Fe allech gael y problemau hyn yn y Ganolfan Llwytho i Lawr. Rhowch gynnig ar yr awgrymiadau hyn er mwyn eu goresgyn.

Cliriwch y Storfa Dros Dro.
Os na allwch orffen llwytho i lawr, efallai y bydd angen i chi wagio'r storfa dros dro yn Microsoft Internet Explorer a gallwch wneud hyn drwy ddilyn y camau canlynol:

1.

Ar y ddewislen Offer yn Internet Explorer, cliciwch Dewisiadau Rhyngrwyd ac yna cliciwch y tab Cyffredinol .

2.

Yn yr adran Ffeiliau Rhyngrwyd Dros Dro , cliciwch Dileu Ffeiliau ac yna cliciwch y botwm Iawn , os ydych am wagio eich storfa gyfan o ffeiliau rhyngrwyd dros dro.

3.

Yn yr adran Ffeiliau Rhyngrwyd Dros Dro , cliciwch Gosodiadau. Yn y blwch deialog Gosodiadau , dewiswch Pob ymweliad â'r dudalen. Yna gosodwch faint y ffolder Ffeiliau Rhyngrwyd Dros Dro i faint sy'n fwy na'r ffeil a fwriedir. Yna cliciwch y botwm Edrych ar Ffeiliau .

4.

Yn y ffenest Ffeiliau Rhyngrwyd Dros Dro sy'n agor, agorwch y ddewislen Golygu a chliciwch Dewis Pob Un. Gwasgwch DILEU. Pan ofynnir i chi a ydych am ddileu yr holl friwsion yr ydych wedi eu dewis, cliciwch Ydw. Cliciwch y botwm OK nes eich bod yn dychwelyd i'r tab Cyffredinol .

5.

Yn y ffenest Hanes o'r tab Cyffredinol , cliciwch Clirio Hanes ac yna cliciwch Ydw. Pan ofynnir i chi os ydych chi am ddileu hanes y Gwefannau yr ydych wedi ymweld â hwy, cliciwch Iawn.

Terfynu Cysylltiad
Rheswm posibl arall pam nad yw eich system yn gallu cwblhau llwytho i lawr yw y gallai eich darparwr gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) derfynnu eich cysylltiad Rhyngrwyd yn awtomatig os bydd yr ISP yn penderfynnu bod eich cysylltiad wedi bod yn segur am o nifer penodedig o funudau. Cysylltwch â'ch ISP er mwyn diffodd y system terfynu cysylltiad yn awtomatig wrth Llwytho ffeiliau i Lawr.

Ynglŷn ag Argymhellion Llwytho i Lawr

Rydym yn argymhell casgliadau o ffeiliau i'w llwytho i lawr a allai fod o ddiddordeb i chi yn seiliedig ar yr hyn yr ydych wedi edrych arno yn y Ganolfan Llwytho i Lawr.

Er enghraifft, os buoch yn edrych ar:

Fideos Croyw Xbox

Negesydd 7.0 MSN ar gyfer Windows

Arbedwr Sgrin MSN (Beta)

Age of Mythology: Ffersiwn Prawf Titans Expansion

Efallai y byddwn yn argymhell y casgliadau canlynol o'r ffeiliau sydd ar gael i'w llwytho i lawr:

Xbox

Gwasanaeth Negesydd MSN

Meddalwedd Rhyngrwyd Premiwm MSN

Age of Mythology



©2009 Microsoft Corporation. All rights reserved. Cysylltwch â ni |Terms of Use |Trademarks |Privacy Statement