Cliciwch Yma i Osod Silverlight*
WelshNewid| Pob Safle Microsoft
Microsoft
Canolfan Llwytho i Lawr 
Chwilio
Chwiliad Manwl

Canolfan Llwytho i lawr Microsoft: Gwefannau Cysylltiedig

Isod fe welwch ddolenni i wefannau Microsoft eraill sy'n cynnig ffeiliau i'w llwytho i lawr. Noder bod bron yr holl ffeiliau i'w llwytho i lawr ar gael o'r gwefannau hyn hefyd i'w cael ar y Ganolfan llwytho i lawr, er y gallai'r gwefannau hyn gynnig gwasanaethau a gwybodaeth na fyddech yn eu cael yma.

Os ydych yn chwilio am ffeiliau i'w llwytho i lawr ar gyfer Windows neu Office fe allech fynd i'n Gwasanaethau Diweddariadau Awtomatig. Maent yn gymorth i'ch cyfrifiadur i ddiweddaru heb i chi orfod mynd i'r Ganolfan llwytho i lawr.

Fersiynau Prawf Gemau Microsoft
Os hoffech chi roi cynnig ar rai gemau Microsoft, dechreuwch drwy ymweld â'r wefan hon, lle y mae llawer i'w cael i llwytho i lawr mewn fersiynau prawf.

Ffeiliau DirectX i’w llwytho i lawr
Yma cewch y fersiwn ddiweddaraf o Microsoft DirectX® a diweddariadau DirectX pwysig eraill ar gyfer eich fersiwn o Windows.

Gyrwyr i'w llwytho i lawr
Dewch o hyd i'r gyrwyr diweddaraf ar gyfer y gwefannau a restrir ar y dudalen adnoddau hon gan Microsoft TechNet.

Windows Media Download Center
Chwyddwch eich Your Play™ gyda Microsoft Windows Media™ Player, encoders, codecs, a ffeiliau eraill i'w llwytho i lawr sydd ar gael o'r wefan.

Ffeiliau Mactopia i’w llwytho i lawr
Fe gewch fwy gan feddalwedd Microsoft ar gyfer y Macintosh gyda diweddariadau gwasanaeth sydd ar gael gan Mactopia.

Ffeiliau Internet Explorer i'w llwytho i lawr
Dewch o hyd i ddiweddariadau allweddol, deunydd a argymhellir, a diweddariadau system eraill i Internet Explorer.

Pecynnau Gwasanaeth ar gyfer Cynnyrch Microsoft
Mae pecynnau gwasanaeth i'w llwytho i lawr yn cynnwys diweddariadau ar gyfer dibynadwyedd system, cydweddu rhaglenni, diogelwch, a mwy. Chwiliwch i weld pa rai sydd ar gael ar hyn o bryd gan Wasanaethau Cefnogi Cynnyrch Microsoft.

Ffeiliau Dyfeisiadau Symudol i'w llwytho i lawr
Fe gewch ategion, diweddariadau, a mwy i'ch cynorthwyo i fanteisio i'r eithaf ar eich ffôn symudol, Cyfrifiadur Llaw, neu Gyfrifiadur Poced. Fe ddewch o hyd i fwy o ffeiliau Dyfeisiadau Symudol i'w llwytho i lawr ar gyfer datblygwyr yma hefyd.

Office Update
Dewch o hyd i ystod eang o ffeiliau i'w llwytho i lawr, diweddariadau allweddol, gwylwyr, a mwy ar gyfer Microsoft Office.

Ffeiliau Datblygwyr MSDN i'w llwytho i lawr
Mae'r Rhwydwaith Datblygwyr Microsoft (MSDN®) yn cynnig ystod eang o offer datblygu perthnasol ac ategion, pecynnau gwasanaeth, diweddariadau cynnyrch, a beta, a chyfle i brofi ymlaen llaw.

MSDN Subscriber Downloads
Mae'r wefan hon sydd wedi ei diogelu gan gyfrinair yn darparu mynediad uniongyrchol i danysgrifwyr MSDN Universal a Proffessional a Phartneriaid Ardystiedig Microsoft (MCP) i'r meddalwedd Tanysgrifiad MSDN diweddaraf.

Windows SDK Update
Mae'r Llwyfan Microsoft SDK yn darparu datblygwyr gyda'r ddogfenaeth ddiweddaraf, ffeiliau pennawd, a chod sampl sydd eu hangen i ysgrifennu meddalwedd ar gyfer Microsoft Windows®, Microsoft Windows NT®, Microsoft Internet Explorer, a System Gweinyddwr Microsoft Windows. Mae Llwyfan SDK yn symleiddio gosodiad drwy integreiddio cydrannau o wahanol SDKs a'u gosod mewn llwybrau cyffredin ar eich disg galed.

Ffeiliau System Gweinydd Windows i'w llwytho i lawr
Cadw'ch gweinydd wedi ei ddiweddaru gyda'r ategion, darnau, pecynnau gwasanaeth, offer a fersiynau prawf y gallwch eu llwytho i lawr neu eu harchebu drwy gysylltiadau ar y dudalen hon.

Ffeiliau TechNet i'w llwytho i lawr ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG
Dod o hyd i Hotfixes, bwletinau diogelwch a darnau, a llawer mwy. Dyma storfa ganolog Microsoft o adnoddau i'w llwytho i lawr ar gyfer gweithwyr proffesiynol TG.



©2009 Microsoft Corporation. All rights reserved. Cysylltwch â ni |Terms of Use |Trademarks |Privacy Statement