Global Development and Computing Portal Global Development and Computing Portal

Cefnogaeth i'r Gymraeg ac Estyn Cynllun Bysellfwrdd y Deyrnas Unedig

Published: September 8, 2004

Mae’r wybodaeth yn yr erthygl hon yn ymwneud â:

Windows XP Service Pack 2

Cyflwynir cefnogaeth ar gyfer y Gymraeg yn Windows XP Service Pack 2. Mae’r gefnogaeth hon yn cwmpasu data locale (fformatau dyddiadau ayb.) a chynllun bysellfwrdd sy’n galluogi teipio mnemonig hawdd i’r holl lythrennau angenrheidiol i ysgrifennu’r Gymraeg.

Mae’r holl ffontiau craidd wedi cefnogi nodau Cymraeg ers peth amser, ac mae offer gwirio sillafu ar gael yn Office XP ac Office 2003. Felly mae hyn yn cloi’r broses o alluogi’r Gymraeg ym Microsoft Windows ac Office. Ystyr galluogi yw mewnbynnu, prosesu ac arddangos/argraffu testun yn y Gymraeg, a hynny heb i ryngwyneb y defnyddiwr (gorchmynion a dewislenni) neu destunau cymorth a chefnogaeth gael eu cyfieithu.

Gellir gweld yr angen i deipio yn y Gymraeg o ddau safbwynt defnydd. Siaradwyr Cymraeg yw’r grŵp cyntaf (a’r rheini yng Nghymru yn bennaf). Gellir dod o hyd i’r ail grŵp o ddefnyddwyr mewn swyddfeydd llywodraethol, cwmnïau ac ysgolion ledled y Deyrnas Unedig. Mae arnynt angen prosesu enwau personau a llefydd sy’n defnyddio llythrennau Cymraeg penodol (e.e. Llanllŷr) – hyd yn oed os mai’r Saesneg yw’r brif iaith a ddefnyddir at ddibenion ysgrifennu.

*
**
**
On This Page
Cynllun y BysellfwrddCynllun y Bysellfwrdd
Defnyddio’r BysellfwrddDefnyddio’r Bysellfwrdd
CrynodebCrynodeb

Cynllun y Bysellfwrdd

Er mwyn sicrhau bod y bysellfwrdd yn cael ei fabwysiadu yn eang, dylai fod mor gyffredinol â phosibl. Felly, dylai fod yn cydweddu â fersiynau blaenorol o gynlluniau bysellfwrdd cyfredol a ddefnyddir yn Ynysoedd Prydain, a dylai gefnogi anghenion a gydnabyddir yn eang yn y rhanbarth.

Mae’r cynllun newydd hwn yn ceisio galluogi llythrennau ar gyfer ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol yn Ynysoedd Prydain (gan gynnwys yr holl Ieithoedd Celtaidd), a rhai prif ieithoedd rhyngwladol (ac eithrio deugraffau/clymlythrennau). Dim ond orgraff fodern a gefnogir.

Top of pageTop of page

Defnyddio’r Bysellfwrdd

Lluniwyd cynllun y bysellfwrdd i fod yn estyniad ar yr holl gynlluniau bysellfwrdd sydd ar gael ar hyn o bryd i ieithoedd Ynysoedd Prydain, gydag ond newidiadau prin i gyfuniadau bysell cyfredol, neu heb newid dim arnynt. Mae engrafiad y bysellfwrdd yn dal i fod yn ddilys ac nid oes angen ailddysgu neu gynhyrchu bysellfyrddau caledwedd newydd. Mae’r estyniadau wedi eu gwneud mewn modd y gall y defnyddwyr sydd angen eu defnyddio eu cofion hawdd.

Mae modd i lythrennau ag acen ddyrchafedig gael eu teipio drwy gyfuno’r bysell AltGr a’r llythyren sylfaen – fel yn achos cynllun bysellfwrdd presennol y Deyrnas Unedig. Mae hyn wedi ei estyn i’r llythrennau Cymraeg ẃ ac ý.

Cyfansoddir yr holl lythrennau a chanddynt farciau diacritig, ac yna’r llythyren sylfaen. Mae’r acen ddisgynedig ar gael yn uniongyrchol ar y bysellfwrdd (ar ochr chwith y fysell sy’n cynnwys digid un/ebychnod). Defnyddir y bysellau meirw eraill drwy gyfuniad o AltGr a’r fysell lle y lleolir nodau bylchu cysylltiedig (defnyddiwch dim ond AltGr, bid y fysell Shift).

NodEnw’r nodNod cysylltiedigCyfuniad-AltGr

´

Acen ddyrchafedig

'

AltGr+'

`

Acen ddisgynedig

`

`

ˆ

Acen grom/To bach

^

AltGr+6

¨

Didonod (umlaut)

"

AltGr+2

˜

Tild

~

AltGr+#

Noder nad yw pob cyfuniad i’r llythrennau sylfaen a marciau diacritig ar gael (gan na ddefnyddir llawer ohonynt yn unrhyw iaith) ac na phennir codau nod i’r fath gyfuniadau a rag-gyfansoddwyd.

Gellir cyfuno’r acen ddyrchafedig [´] â’r priflythrennau neu’r llythrennau bach A, E, I, O, U, Y, W

Gellir cyfuno’r acen grom/to bach [^]â’r priflythrennau neu’r llythrennau A, E, I, O, U, Y, W

Gellir cyfuno’r didolnod [¨] â’r priflythrennau neu’r llythrennau A, E, I, O, U, Y, W

Gellir cyfuno’r acen ddisgynedig [`]â’r priflythrennau neu’r llythrennau A, E, I, O, U, Y, W

Gellir cyfuno’r tild [~]â’r priflythrennau neu’r llythrennau A, N, O

Ni ddefnyddir y tild yn y Gymraeg, ond fe’i cyflwynwyd ar y bysellfwrdd er mwyn cefnogi’r Llydaweg. Yn ogystal, defnyddir y tild yn Estoneg, Portiwgaleg a Sbaeneg.

Top of pageTop of page

Crynodeb

Dyma’r holl gyfuniadau o’r bysellau AltGr a bysellau meirw i greu’r estyniadau i gynllun y Deyrnas Unedig. Yma, defnyddir y llythyren A fel enghraifft, a gellir ei disodli â’r llythrennau sylfaen eraill sy’n creu’r cyfuniadau sydd ar gael. Mae’r golofn olaf yn rhestru rhai cyfuniadau amgen.

NodEnw’r nodCyfuniad-AltGrDewis amgen

á

llythyren a fach gydag acen ddyrchafedig

AltGr+' , A

AltGr+A

ã

llythyren a fach gydag acen ddisgynedig

` , A

â

llythyren a fach gydag acen grom

AltGr+6 , A

ä

llythyren a fach gyda didolnod

AltGr+2 , A

ã

llythyren a fach gyda thild

AltGr+# , A

ç

llythyren c fach gyda sedilla

AltGr+c

Á

priflythyren a gydag acen ddyrchafedig

AltGr+' , Shift+A

AltGr+Shift+A

Ã

priflythyren a gydag acen ddisgynedig

` , Shift+A

Ä

priflythyren a gyda didolnod

AltGr+2 , A

Â

priflythyren a gydag acen grom

AltGr+6 , Shift+A

Ã

priflythyren a gyda thild

AltGr+# , Shift+A

Ç

Priflythyren c gyda sedilla

AltGr+C

`

Acen ddisgynedig

` , Bwlch

AltGr+Shift+'

golyga’r arwydd plws [+] fod angen cadw gwasgu ar y fysell/bysellau shift wrth wasgu’r fysell olaf

golyga’r atalnod [,] y dylid rhyddhau’r fysell/bysellau cyntaf cyn gwasgu’r fysell/bysellau nesaf


Top of pageTop of page