Oeddech chi'n gwybod bellach bod modd defnyddio Office 2003 yn Gymraeg? Mewn ymateb i ddiddordeb enfawr, rydym wedi gweithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn datblygu dau becyn rhyngwyneb Cymraeg - y naill ar gyfer Windows XP, a'r llall ar gyfer Office 2003.
Gallwch eu llwytho yn rhad ac am ddim, ac maent yn galluogi siaradwyr Cymraeg i weithio'n haws yn eu dewis iaith, yn y cartref, mewn busnes neu ym myd addysg. Gobeithiwn hefyd y byddant yn helpu i hyrwyddo defnydd yr iaith bwysig hon a'i gwneud yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr cyfrifiaduron ledled y byd