Trace Id is missing

Pecynnau Iaith Gweinydd 2010 ar gyfer SharePoint Server 2010, Project Server 2010, Search Server 2010, a Rhaglenni Gwe Office 2010

Mae pecynnau iaith yn golygu bod modd creu safleoedd a chasgliadau o safleoedd mewn mwy nag un iaith heb orfod gosod fersiynau gwahanol o SharePoint Server 2010, Project Server 2010, Search Server 2010, a Rhaglenni Gwe Office 2010

Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.

Llwytho i lawr
  • Fersiwn:

    SP2

    Dyddiad Cyhoeddi:

    20/12/2019

    Enw'r ffeil:

    ServerLanguagePack_SP2_cy-gb.exe

    Maint Ffeil:

    59.2 MB

    Mae pecynnau iaith yn golygu bod modd creu safleoedd a chasgliadau o safleoedd mewn mwy nag un iaith heb orfod gosod fersiynau gwahanol o SharePoint Server 2010, Project Server 2010, Search Server 2010, a Rhaglenni Gwe Office 2010. Mae modd gosod mwy nag un pecyn iaith ar yr un gweinydd. Fydd defnyddio Pecyn Iaith ddim yn newid iaith y cynnyrch gweinydd Microsoft sydd wedi'i osod, nac iaith y nodweddion gweinyddol.

    Nodiadau
    • Does dim angen i chi lwytho pecyn iaith i lawr ar gyfer yr iaith rydych chi wedi'i gosod, diben y pecynnau iaith hyn yw cefnogi creu ieithoedd ychwanegol.
  • Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi

    Windows Server 2008 R2, Windows Server 2008 Service Pack 2, Windows Server 2012


    • Bydd hwn yn gweithio gyda'r rhaglenni canlynol:

      • Microsoft SharePoint Server 2010
      • Microsoft Project Server 2010
      • Microsoft SharePoint Search Server 2010
      • Microsoft SharePoint Search Server Express 2010
      • Rhaglenni Gwe Microsoft Office 2010


  • I osod y pecyn iaith hwn:

    Gosod pecyn iaith:
    1. Llwythwch y ffeil i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
    2. Rhedwch y rhaglen gosod.
    3. Ar y dudalen Darllen Telerau Trwydded Meddalwedd Microsoft, darllenwch y telerau, ticiwch y blwch Rwy'n derbyn telerau'r cytundeb hwn, ac wedyn clicio Bwrw ymlaen.
    4. Bydd y dewin gosod yn rhedeg ac yn gosod y pecyn iaith.
    5. Ailredwch y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnoleg SharePoint, drwy ddefnyddio'r gosodiadau diofyn.
    Nodyn: Os na fyddwch chi'n rhedeg y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnoleg SharePoint ar ôl i chi osod pecyn iaith, fydd y pecyn iaith ddim wedi cael ei osod yn iawn.

    Ailredeg y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnoleg SharePoint:
    1. Cliciwch Cychwyn, pwyntio at Pob Rhaglen, pwyntio at Cynnyrch Microsoft SharePoint 2010, ac wedyn clicio Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnoleg SharePoint.
    2. Ar dudalen groeso Cynnyrch a Thechnoleg SharePoint, cliciwch Nesaf.
    3. Cliciwch Iawn yn y blwch deialog sy'n rhoi gwybod i chi efallai y bydd angen ailgychwyn rhai gwasanaethau wrth ffurfweddu.
    4. Ar y dudalen Addasu Gosodiadau Fferm o Weinyddion, cliciwch Peidio â datgysylltu o'r fferm hon o weinyddion, ac wedyn clicio Nesaf.
    5. Os bydd y dudalen Addasu Gosodiadau Gweinyddu Gwe Gweinyddu Canolog SharePoint yn ymddangos, peidiwch ag addasu dim o'r gosodiadau diofyn, ac wedyn cliciwch Nesaf.
    6. Ar y dudalen Cwblhau Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnoleg SharePoint, cliciwch Nesaf.
    7. Ar y dudalen Wedi Llwyddo i Ffurfweddu, cliciwch Gorffen.
    Cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio:

    I gael gwybodaeth am ddefnyddio, ewch i'r dudalen Defnyddio pecynnau iaith (SharePoint Server 2010).

    I dynnu'r pecyn iaith hwn:
    1. Ar y ddewislen Cychwyn, pwyntiwch at Gosodiadau ac wedyn clicio Panel Rheoli.
    2. Dwbl-gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
    3. Yn y rhestr o'r rhaglenni sydd eisoes wedi'u gosod, dewiswch Pecyn Iaith Fersiwn 2010 Meddalwedd Gweinydd a Rhaglenni Gwe Office – Cymraeg , ac yna clicio Tynnu neu Ychwanegu/Tynnu. Os bydd blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu'r rhaglen.
    4. Cliciwch Iawn neu Iawn i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.