Trace Id is missing

Pecyn Ategolyn Iaith Microsoft® Office – Cymraeg

Mae Pecyn Ategolyn Iaith Microsoft Office - Cymraeg yn ychwanegu offer arddangos, help neu brawf ddarllen ychwanegol gan ddibynnu ar yr iaith rydych chi'n ei gosod.

Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.

Llwytho i lawr
  • Fersiwn:

    2016/2019

    Dyddiad Cyhoeddi:

    16/3/2016

    Enw'r ffeil:

    Office2016_LAP_Readme_cy-gb.docx

    Maint Ffeil:

    22.3 KB

    Mae Pecyn Ategolyn Iaith Microsoft Office - Cymraeg yn ychwanegu offer arddangos, help neu brawf ddarllen ychwanegol gan ddibynnu ar yr iaith rydych chi'n ei gosod.
    Ar ôl gosod, mae galluoedd Pecyn Ategolyn Iaith Microsoft Office Language - Cymraeg a'r dewisiadau cyfatebol ar gael yn rhaglenni Office a rhaglen Dewisiadau Iaith Microsoft Office.
  • Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi

    Windows 10, Windows 7, Windows 8

      Dilynwch y ddolen i weld y data diweddaraf am Ofynion y System Gofynion y System ar gyfer Office
      Microsoft Windows 8 - OS 32 neu 64 did
      Microsoft Windows 10 - OS 32 neu 64 did. (Ar gyfer defnyddwyr sydd wedi prynu Office 2019 un-tro, Windows 10 ydy'r unig OS mae modd delio ag ef)
      Nodyn: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod y Pecynnau Gwasanaeth diweddaraf ar gyfer eich System Gweithredu er mwyn sicrhau'r cymorth gorau posibl ar gyfer eich iaith.

    Meddalwedd Bydd unrhyw fersiwn o Office 2016 (neu ddiweddarach) mewn cyfres neu'n annibynnol sy'n cynnwys Microsoft Excel, Microsoft Lync, Microsoft OneNote, Microsoft Outlook, Microsoft PowerPoint neu Microsoft Word yn gallu delio â Phecyn Ategolyn Iaith Microsoft Office 2016 (neu ddiweddarach) - Cymraeg.
    Cyfrifiadur a PhrosesyddProsesydd 1.6 GHz gyda chymorth SSE2 neu uwch; 4GB RAM; 2 GB RAM (32-did) neu uwch

    Lle ar y ddisg Yn ogystal â'r lle ar y ddisg galed a ddefnyddir gan y rhaglenni Office sydd wedi'u gosod,
  • 4 GB o le gwag ar y ddisg galed.

  • Mae'r holl ofynion system eraill yr un fath â'r rheini ar gyfer y rhaglenni Office rydych chi'n eu defnyddio gyda Phecyn Ategolyn Iaith Microsoft Office - Cymraeg.


  • Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows Mae'n syniad da gosod y Pecynnau Rhyngwyneb Iaith Windows diweddaraf i gael y cymorth iaith gorau posibl ar gyfer eich System Gweithredu a'r rhaglenni meddalwedd.

    Cydraniad Monitor a gosodiadau DPI Mae llawer o ffontiau wedi cael eu creu i'w darllen ar eu gorau ar gydraniad 1366 x 768. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd darllen ffont eich iaith, diweddarwch eich gosodiadau arddangos i'r cydraniad yma neu uwch os oes angen. Cofiwch: mae'n syniad da eich bod yn defnyddio rhaglenni Office ar osodiad DPI diofyn Windows - 96 DPI. Mae defnyddio'r gosodiad 120 DPI yn gallu creu profiad gwael i'r defnyddiwr mewn rhai rhaglenni Office drwy gynyddu maint blychau deialog Office.

    Dewisiadau Rhanbarthol ac Iaith Ar ben hynny, mae'n syniad da bod yr hollDdewisiadau Rhanbarthol ac Iaith yn y Panel Rheoli yn cael eu gosod i iaith y Pecyn Ategolyn Iaith Microsoft Office – Cymraeg.

  • I osod y Pecyn Ategolyn Iaith;
    1. Llwythwch ffeil gosod y Pecyn Ategolyn Iaith i lawr drwy glicio ar y ddolen hon Llwytho'r Gosodwr Ategolyn Pecyn Iaith i lawr
    2. Ar ôl iddo orffen llwytho i lawr Dewiswch Rhedeg.
    3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i orffen gosod.

    Newidiwch y rhyngwyneb defnyddiwr i iaith y Pecyn Ategolyn Iaith
    Ar ôl gosod y Pecyn Ategolyn Iaith, gallwch newid iaith y rhyngwyneb defnyddiwr i Gymraeg yn rhaglenni Office neu o raglen Dewisiadau Iaith Microsoft Office.

    I newid iaith y rhyngwyneb defnyddiwr o'r Dewisiadau Iaith:

    1. Lansiwch Dewisiadau Iaith Office.
    2. O'r rhestrDewis Ieithoedd Golygu, dewiswch eich iaith golygu a chliciwch y botwm Gosod yn Ddiofyn.
    3. O'r rhestri Dewis Ieithoedd Arddangos a Help,dewiswch eich Iaith Arddangos a chlicio'r botwmGosod yn Ddiofyn.
    4. Cliciwch y botwm Iawn.

    I newid iaith rhyngwyneb defnyddiwr mewn rhaglen Office:

    1. Ewch i Ffeil, Dewisiadau, ac yna dewiswch Iaith.
    2. O'r rhestri Dewis Ieithoedd Golygu, dewiswch eich iaith golygu a chliciwch y botwm Gosod yn Ddiofyn.
    3. O'r rhestri Dewis Ieithoedd Arddangos a Help,dewiswch eich Iaith Arddangos a chlicio'r botwmGosod yn Ddiofyn.
    4. Cliciwch y botwm Iawn.

    Bydd y gosodiadau iaith rydych chi wedi'u dewis yn dod i rym y tro nesaf byddwch chi'n dechrau eich rhaglenni Office.

    Newid iaith sillafu
    Mae'n bosibl bod Ategolyn Pecyn Iaith Microsoft Office - Cymraeg yn cynnwys offer prawf ddarllen yn eich iaith. Dyma sut i newid iaith sillafu rhan o destun:

    Excel: Mae Excel yn defnyddio gosodiad prif iaith golygu Microsoft Office i bennu'r iaith sillafu ddiofyn. I newid hon, cliciwch Ffeil ac wedyn cliciwch Dewisiadau. Cliciwch y dewis Prawf ddarllen a dewiswch un o'r ieithoedd sydd ar gael o'r rhestr o ieithoedd Geiriadur.

    Outlook, PowerPoint, Word ac OneNote: Dewiswch y testun rydych chi eisiau gwirio ei sillafu, cliciwch Adolygu, cliciwch y botwm Iaith, ac yna cliciwch y dewis Gosod Iaith Prawf ddarllen. Dewiswch eich iaith o'r blwch rhestr a chliciwch Iawn.