This is the Trace Id: b8f94ad8d7dae314b05c5e91d18cfd0d
Sgipio i'r prif gynnwys Azure Copilot Windows Surface XBOX Outlook Accessories Microsoft AI Microsoft Security Azure Dynamics 365 Microsoft 365 for business Microsoft Power Platform Windows 365 Developer Center Documentation Microsoft Learn Microsoft Tech Community Microsoft Marketplace Visual Studio Software companies View Sitemap

Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows 7

Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows 7 yn rhoi Rhyngwyneb Defnyddiwr sydd wedi'i gyfieithu'n rhannol o ardaloedd mwyaf poblogaidd Windows 7.

Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.

  • Fersiwn:

    1.0

    Dyddiad Cyhoeddi:

    13/6/2024

    Enw'r ffeil:

    LIP_cy-GB-32bit.mlc

    LIP_cy-GB-64bit.mlc

    Maint Ffeil:

    2.5 MB

    4.0 MB

    Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith (LIP) Windows yn rhoi fersiwn sydd wedi'i gyfieithu'n rhannol o ardaloedd mwyaf poblogaidd Windows. Ar ôl gosod y Pecyn Rhyngwyneb Iaith, bydd y testun yn y dewiniaid, y blychau deialog, y dewislenni a'r pynciau Help a Chymorth yn ymddangos yn iaith y Pecyn Rhyngwyneb Iaith. Bydd y testun nad yw wedi'i gyfieithu yn dal yn iaith sylfaen Windows 7. Er enghraifft, os oeddech chi wedi prynu fersiwn Saesneg o Windows 7, ac wedi gosod Pecyn Rhyngwyneb Iaith Cymraeg, bydd rhywfaint o destun yn dal yn Saesneg. Gallwch osod mwy nag un Pecyn Rhyngwyneb Iaith ar un iaith sylfaen. Mae modd gosod Pecynnau Rhyngwyneb Iaith ar bob argraffiad o Windows 7.
  • Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi

    Windows 7

    • Microsoft Windows 7
    • Gosod iaith sylfaen ofynnol Windows 7: Saesneg
    • 4.63 Mb o le gwag er mwyn llwytho i lawr
    • 15 Mb o le gwag er mwyn gosod

  • RHYBUDD: Os yw amgryptiad BitLocker wedi ei alluogi gennych chi, rhaid i chi ei atal cyn gosod y LIP. Agorwch y Control Panel, dewis System and Security, wedyn BitLocker Drive Encryption (Amgryptiad Gyriant BitLocker). Cliciwch ar Suspend Encryption (Atal Amgryptiad).

    Oherwydd bod ffeiliau gwahanol i'w llwytho i lawr ar gyfer fersiynau 32-did a 64-did LIP Windows 7, cyn i chi ddechrau llwytho i lawr, mae arnoch angen gwybod pa fersiwn o Windows 7 rydych chi wedi'i osod:
    Cliciwch y botwm Start, wedyn de-glicio Cyfrifiadur a dewis Properties . Bydd hyn yn agor gwybodaeth sylfaenol am y cyfrifiadur.
    Edrychwch yn yr adran System am Math o system. Bydd hyn yn dweud wrthych a ydych yn rhedeg fersiwn 32-did neu 64-did system gweithredu Windows 7

    I osod y fersiwn 32-did, gallwch naill ai:

    1. Clicio'r botwm Llwytho i Lawr, wedyn clicio Open i osod y Pecyn Rhyngwyneb Iaith


    2. neu

    3. Clicio'r botwm Llwytho i Lawr
      • Cliciwch Save i gopïo'r ffeil i'r cyfrifiadur,
      • Ewch at y ffeil rydych chi wedi'i llwytho i lawr a'i dwbl-glicio i osod y Pecyn Rhyngwyneb Iaith

    I osod y fersiwn 64-did, rhaid i chi ddefnyddio'r ail ddewis uchod.