Trace Id is missing

Language Interface Pack Microsoft® Office 2013 – Cymraeg

Mae Microsoft Office Language Interface Pack 2013 - Cymraeg yn rhoi Rhyngwyneb Defnyddiwr wedi'i gyfieithu ar gyfer nifer o raglenni Microsoft Office 2013.

Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.

  • Fersiwn:

    2013

    Dyddiad Cyhoeddi:

    25/2/2013

    Enw'r ffeil:

    languageinterfacepack-x64-cy-GB.exe

    languageinterfacepack-x86-cy-GB.exe

    Maint Ffeil:

    13.7 MB

    13.6 MB

      Mae Microsoft Office Language Interface Pack 2013 - Cymraeg yn rhoi Rhyngwyneb Defnyddiwr wedi'i gyfieithu ar gyfer y rhaglenni Microsoft Office 2013 canlynol:

    • Microsoft Excel® 2013

    • Microsoft OneNote® 2013

    • Microsoft Outlook® 2013

    • Microsoft PowerPoint® 2013

    • Microsoft Word® 2013


    • Drwy ddefnyddio Microsoft Office Language Interface Pack 2013 - Cymraeg, gall defnyddwyr weithio yn fersiynau iaith gosod wreiddiol rhaglenni Office a gweld gorchmynion a dewisiadau ar gyfer y rhaglenni hynny yn Gymraeg.

      Wrth osod Microsoft Office Language Interface Pack 2013, bydd ffeiliau sy'n galluogi defnyddwyr i newid iaith y rhyngwyneb defnyddiwr yn cael eu copïo i'r ddisg galed gyrchfan. Ar ôl gosod mae galluoedd a dewisiadau Microsoft Office Language Interface Pack 2013 - Cymraeg ar gael yn rhaglenni Office 2013 a rhaglen Gosodiadau Iaith Microsoft Office 2013.
  • Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi

    Windows 7, Windows 8

      Microsoft Windows 7 - OS 32 neu 64 did
      Microsoft Windows 8 - OS 32 neu 64 did
      Nodyn: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod y Pecynnau Gwasanaeth diweddaraf ar gyfer eich System Gweithredu i sicrhau bod modd delio â’ch iaith.

    Meddalwedd Unrhyw fersiwn o gyfres Office 2013 neu raglen annibynnol sy'n cynnwys Microsoft Excel, Microsoft OneNote, Microsoft Outlook, Microsoft PowerPoint neu Microsoft Word neu a fydd yn gallu delio â Microsoft Office Language Interface Pack 2013 - Cymraeg. Nodyn: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod y Pecynnau Gwasanaeth Microsoft Office diweddaraf ar gyfer eich cynnyrch Microsoft Office. Bydd hyn yn sicrhau profiad gwell i'r defnyddiwr.

    Cyfrifiadur a Phrosesydd Prosesydd 1 GHz gyda chymorth SSE2 neu uwch; 2 GB RAM neu uwch

    Lle ar y ddisg Yn ogystal â'r lle ar y ddisg galed sy'n cael ei ddefnyddio gan raglenni Office 2013 sydd wedi'u gosod,
  • 3 GB o le ar gael ar y ddisg galed.

  • Mae'r holl ofynion system eraill yr un fath â'r rheini ar gyfer y rhaglenni Office 2013 rydych chi'n eu defnyddio gyda Microsoft Office Language Interface Pack 2013 - Cymraeg.


  • Language Interface Pack Windows Mae'n syniad da gosod y Windows 7 / Windows 8 Language Information Pack diweddaraf er mwyn i’ch System Gweithredu a’ch rhaglenni meddalwedd allu delio â’ch iaith.

    Cydraniad y Monitor a gosodiadau DPI Mae nifer o ffontiau wedi cael eu creu i fod ar eu gorau ar y cydraniad 1366 x 768. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd darllen ffont eich iaith, diweddarwch eich gosodiadau arddangos i'r cydraniad hwn neu uwch os oes angen. Cofiwch: mae'n syniad da defnyddio rhaglenni Office 2013 ar y gosodiad DPI Windows diofyn - 96 DPI. Gall defnyddio'r gosodiad 120 DPI achosi profiad gwael i ddefnyddwyr Office yn rhai o raglenni Office drwy gynyddu maint rhai blychau deialog Office.

    Dewisiadau Rhanbarth ac Iaith Ar ben hynny mae'n syniad da bod yr holl Ddewisiadau Rhanbarth ac Iaith yn y Panel Rheoli wedi'u gosod i iaith Language Interface Pack Microsoft 2013 - Cymraeg.

  • I osod hyn:
    1. Llwythwch y ffeil LanguageInterfacePack.exe i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
    2. Dwbl-gliciwch y ffeil rhaglen LanguageInterfacePack.exe ar eich disg galed i gychwyn y rhaglen Gosod.
    3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i orffen gosod.
    4. Ar ôl i chi osod bydd y ffeil readme ar gyfer eich Microsoft Office Language Interface Pack 2013 ar gael yn C:\Program Files\Common Files\microsoft shared\OFFICE15\1106\LIPread.htm.
    5. Does dim modd delio ag uwchraddio Office 2010 gyda Office 2010 Language Interface Pack neu rifyn blaenorol cyn Office 2013 gyda Office 2013 Language Interface Pack. Os ydych chi am uwchraddio eich Office 2010 i Office 2013 gyda Office 2013 Language Interface Pack dylech chi:
      • Ddadosod Language Interface Pack Office 2010.
      • Rhedeg proses osod Office 2013 a dewis uwchraddio.
      • Ar ôl gorffen gosod Office 2013, gosodwch a ffurfweddu Office Language Interface Pack 2013.



    Ysgogi eich cynnyrch Office:
    Os ydych chi'n cael trafferth darllen y Cod Gosod i gyd ar y blwch deialog "Dewin Ysgogi Microsoft Office", neu os na fydd y cod gosod yn ymddangos yn iawn wrth ddefnyddio eich Microsoft Office Language Interface Pack 2013, canslwch y dewin a newid i'ch cynnyrch Saesneg i ysgogi eich cynnyrch Microsoft Office.

    Cyfarwyddiadau defnyddio:
    I newid eich Rhyngwyneb Defnyddiwr i iaith y Microsoft Office Language Interface Pack 2013 – Cymraeg, dilynwch y camau hyn:

    1. Lansiwch Dewisiadau Iaith Microsoft Office 2013 o'r ddewislen Cychwyn\Pob Rhaglen\Microsoft Office\Offer Microsoft Office.
    2. Dan Dewis Ieithoedd Arddangos a Help, dan Iaith Arddangos dewiswch yr iaith a chlicio'r botwm Rhagosod.
    3. Dan Dewis Ieithoedd Golygu, dewiswch yr iaith a chlicio'r botwm Rhagosod.
    4. Cliciwch y botwm Iawn.


    Bydd y gosodiadau iaith rydych chi wedi'u dewis yn dod i rym y tro nesaf byddwch chi'n cychwyn eich rhaglenni Office.
    Nodyn: Does dim modd newid Help i iaith Microsoft Office Language Interface Pack 2013 – Cymraeg. Bydd Help bob tro'n aros yn yr iaith gosod wreiddiol.
    Dangos eich help bob tro yng nghwymprestr yr iaith gosod wreiddiol.

    I dynnu'r hyn sydd wedi'i lwytho i lawr:
  • Caewch holl raglenni Microsoft Office.
  • Dwbl-gliciwch yr eicon Rhaglenni a Nodweddion ym Mhanel Rheoli Windows.
  • Yn y dewis Dadosod neu Newid Rhaglen, cliciwch Microsoft Office Language Interface Pack 2013 – Cymraeg yn y blwch Rhaglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, dewiswch Dadosod.
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.